Richard Crashaw
Bardd o Loegr oedd Richard Crashaw (1612 neu 1613 – 21 Awst 1649) sy'n nodedig am ei benillion crefyddol Saesneg a Lladin. Caiff ei gyfri fel un o'r Metaffisegwyr a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn hanner cyntaf yr 17g. BywgraffiadBywyd cynnar ac addysgGanwyd yn Llundain yn y flwyddyn 1612 neu 1613, yn fab i weinidog Piwritanaidd. Mynychodd Ysgol Charterhouse a derbyniodd ei radd o Neuadd Penfro, Caergrawnt yn 1634. Y flwyddyn honno fe gyhoeddodd gasgliad o epigramau Lladin ar bynciau'r ysgrythur, Epigrammatum Sacrorum Liber. Fe'i benodwyd yn gymrawd yn Peterhouse, Caergrawnt, ac yno cafodd ei ordeinio'n offeiriad Anglicanaidd.[1] Ei dröedigaeth a'i alltudiaethMi oedd Peterhouse yn ganolfan i syniadau'r Uchel-Eglwyswyr, a chawsant ddylanwad mawr ar Crashaw. Dros amser, trodd ei sylw at ddysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig, ac o ganlyniad fe ymddiswyddodd o'i gymrodoriaeth yn Peterhouse cyn i'r Piwritaniaid allu ei yrru allan yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Cyhoeddodd Steps to the Temple: Sacred Poems, with other Delights of the Muses yn 1646, ac mae'r gyfrol honno yn cynnwys cerddi crefyddol a seciwlar yn Saesneg a Lladin.[1] Aeth Crashaw ar ffo i Ffrainc yn 1644 ac yno fe drodd yn Gatholig. Cafodd ei ganfod yn byw'n dlawd ym Mharis gan ei gyfaill Abraham Cowley yn 1646. Ar gais Cowley, danfonwyd Crashaw i Rufain gan Henrietta Maria, gwraig Siarl I, brenin Lloegr. Yn 1649, cafodd ei benodi'n ganon Eglwys Gadeiriol Santa Casa yn Loreto, Marche, yn Nhaleithiau'r Babaeth. Bu farw yno ar 21 Awst 1649.[1] Barddoniaeth
Er iddo gael ei gyfri'n un o'r Metaffisegwyr Seisnig, mae barddoniaeth Crashaw yn adlewyrchu gwaith y cyfrinwyr Eidalaidd a Sbaenaidd a delweddaeth y beirdd Baróc yn fwy na'i gydwladwyr. Defnyddiodd gysetiau i lunio cydweddiadau natur â'r ysbryd.[1] Cyfeiriadau
Darllen pellach
|