Rwseg
Mae Rwseg (русский язык, tr. russkij jazyk) yn iaith Slafaidd Dwyreiniol sy'n frodorol i'r Rwsiaid yn Nwyrain Ewrop. Mae'n iaith swyddogol yn Rwsia, Belarws, Casachstan, Cirgistan, yn ogystal mae e'n cael ei defnyddio'n helaeth ledled taleithiau'r Baltig, y Cawcasws a Chanolbarth Asia.[1][2] Mae Rwsieg yn perthyn i deulu ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Mae lefel uchel o gyd-ddealladwy rhwng Rwsieg, Belarwseg a Wcreineg. Rwsieg yw iaith frodorol fwyaf a defnyddir yn Ewrop, hefyd y iaith fwyaf cyffredin Ewrasia.[3] Gyda dros 258 miliwn o siaradwyr ledled y byd, hi yw'r iaith Slafaidd a siaredir amlaf.[4] Rwsieg yw'r seithfed iaith fwyaf poblogaidd yn y byd yn ôl nifer y siaradwyr brodorol a'r wythfed iaith fwyaf yn y byd yn ôl cyfanswm siaradwyr (Ail-iaith a brodorol).[5] Mae'r iaith yn un o chwe o'r ieithoedd swyddogol y Cenhedloedd Unedig. Rwsieg hefyd yw'r ail iaith mwyaf poblogaidd ar y We, ar ôl Saesneg.[6] Geiriau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol Argraffiad Rwseg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
|