Schindler's List
Mae Schindler's List (1993) yn ffilm fywgraffyddol a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg ac a ysgrifennwyd gan Steven Zaillian. Adrodda'r ffilm hanes gwir Oskar Schindler, gŵr busnes Almaenig a achubodd fywydau mwy na mil o Iddewon o Wlad Pwyl o'r holocost drwy eu cyflogi yn ei ffatrioedd. Seiliwyd y ffilm ar y nofel Schindler'r Ark gan Thomas Keneally. Mae'n serennu Liam Neeson fel Schindler, Ralph Fiennes fel swyddog yr Schutzstaffel (SS) Amon Göth, a Ben Kingsley fel cyfrifydd Schindler, Itzhak Stern. Bu'r ffilm yn llwyddiant mawr yn y sinemau ac enillodd saith o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau a'r Sgôr Orau. Yn 2007, rhoddodd y Sefydliad Ffilm Americanaidd y ffilm ar rif wyth o'r ffilmiau Americanaidd gorau erioed. |