Simon McBurney
Mae Simon Montagu McBurney, OBE (ganed 25 Awst 1957)[1] yn actor, ysgrifennwr a chyfarwyddwr o Loegr. Ef yw sefydlwr a chyfarwyddwr celfyddydol y Théâtre de Complicité, Llundain. Mae wedi cael rolau yn The Manchurian Candidate (2004), Friends with Money (2006), The Golden Compass (2007), The Duchess (2008), Robin Hood (2010), Tinker Tailor Soldier Spy (2011), Magic in the Moonlight (2014), The Theory of Everything (2014), a Mission: Impossible - Rogue Nation (2015). Bywyd cynnarGanwyd McBurney yng Nghaergrawnt, Lloegr. Roedd ei dad, Charles McBurney, yn archeolegwr ac academydd Americanaidd. Roedd Charles McBurney yn ŵyr i'r llawffeddyg Americanaidd Charles McBurney (fe'i briodolwyd gyda thynnu'r arwydd meddygol pwynt McBurney, er y mae rhai beirniaid wedi herio ei fodolaeth). Roedd ei fam, Anne Francis Edmondstone (yn gynt Charles), yn ysgrifenyddes; yr oedd yn Brydeinwraig gyda llinach Seisnig, Albanaidd a Gwyddelig.[2] Roedd rhieni McBurney yn berthnasau pell a gwrddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[3] Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg yn Peterhouse, Caergrawnt, yn graddio yn 1980. Wedi marwolaeth ei dad, symudodd i Baris lle hyfforddodd ar gyfer y theatr yn y Sefydliad Jacques Lecoq.[3] GyrfaMcBurney yw sefydlwr a chyfarwyddwr celfyddydol y cwmni theatr Prydeinig Complicite, sy'n perfformio ar draws y byd.[4] Cyfarwyddodd eu cynyrchiadau Street of Crocodiles (1992); The Three Lives of Lucie Cabrol (1994), a addaswyd o drioleg John Berger Into Their Labors; To the Wedding; Mnemonic (1999); The Elephant Vanishes (2003); A Disappearing Number (2007); A Dog's Heart (2010); and The Master and Margarita (2011). Creodd a chyfarwyddodd McBurney y darn A Disappearing Number, yn cymryd ei ysbrydoliaeth o'r stori am y cydweithrediad rhwng dau fathemategwr pur nodedig yr 20g, yr athrylith Indiaidd Srinivasa Ramanujan, a'r athro Caergrawnt G.H. Hardy.[5] Chwaraewyd y ddrama yn y Barbican yn yr hydref yn 2008 cyn mynd ar daith ryngwladol. Ym mis Chwefror 2009, cyfarwyddodd McBurney y cynhyrchiad Complicite Shun-kin, a seiliwyd ar ddau destun gan Jun'ichiro Tanizaki. Fe'i chynhyrchwyd yn Llundain a Thokyo yn 2010. Cyfarwyddodd McBurney The Resistible Rise of Arturo Ui ac All My Sons (2008) (y ddau yn Efrog Newydd), a sioeau comedi byw, gan gynnwys So Much Things To Say gan Lenny Henry a Live in 2000 gan French and Saunders. Mae McBurney yn actor sgrin sefydlog. Chwaraeodd Cecil y côr-feistr mewn rôl gylchol ar The Vicar of Dibley, arbenigwr cyfrifiaduron y CIA Garland yn Body of Lies, Dr. Atticus Noyle yn The Manchurian Candidate (2004), Nigel Stone yn The Last King of Scotland, y gŵr metrorywiol Aaron yn Friends with Money, Fra Pavel yn The Golden Compass, Charles James Fox yn The Duchess, ac Oliver Lacon yn Tinker Tailor Soldier Spy. Ysgrifennodd y stori ar gyfer Mr. Bean's Holiday, yn ogystal â bod yn uwch gynhyrchydd. O 2010 i 2014, ymddangosodd yng nghyfres gomedi deledu y BBC Rev., yn chwarae'r rôl Archddiacon Robert. Lleisiodd McBurney Kreacher yn Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 (2010). Yn y gyfres The Borgias, chwaraeodd yr arbenigwr Cyfraith Ganonaidd Johannes Burchart. McBurney oedd Artiste Associé y 66ain Festival d'Avignon (2012). Yn 2014, chwaraeodd McBurney tad Stephen Hawking yn y ffilm fygraffyddol am ei fywyd, The Theory of Everything.[6] Ym mis Gorffennaf 2015, serennodd fel Atlee, cyfarwyddwr MI6 yn y ffilm acsiwn ddrama gyffrous Mission: Impossible - Rogue Nation. Chwaraea'r ymchwiliwr goruwchnaturiol Maurice Grosse yn y ffilm arswyd The Conjuring 2: The Enfield Poltergeist.[7]
Bywyd personolMae'n byw yn Llundain gyda'i wraig a thri o blant.[8] Yn Rhestr Anrhydeddau y Flwyddyn Newydd 2005, penodwyd McBurney yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ar gyfer ei waith drama.[9] FfilmyddiaethFfilmiau
Teledu
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|