Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)
Siambr isaf Senedd y Deyrnas Unedig yw Tŷ'r Cyffredin. Mae'n cynnwys 650 o aelodau (aelodau seneddol neu ASau), wedi'u hethol drwy system 'cyntaf i'r felin' bob pum mlynedd neu yn gynharach os datodir y tŷ gan y prif weinidog ynghynt na hynny. Lindsay Hoyle yw'r Llefarydd presennol. Sefydlwyd Tŷ Cyffredin Lloegr rywbryd yn y 14g gan newid ei henw i 'Dŷ' Cyffredin Prydain Fawr' wedi uno'r Alban a Lloegr yn 1707, a newid unwaith eto yn y 19g i 'Tŷ'r Cyffredin Prydain Fawr ac Iwerddon' wedi'r Ddeddf Uno gydag Iwerddon. Bathwyd y term presennol yn 1922. Dan Ddeddf 1911, lleihawyd grym Tŷ'r Arglwyddi i wrthod penderfyniadau Tŷ'r Cyffredin. Mae'r Llywodraeth yn swyddogol yn ddarostyngedig i Dŷ'r Arglwyddi - o ran cyfrifoldeb. Erys y Prif Weinidog yn ei swydd tra bod ganddo/i gefnogaeth mwyafrif aelodau Tŷ'r Cyffredin. Rhoddir sêl bendith ar y Prif Weinidogaeth gan Frenhines y DU; mae'r person hwn fel arfer yn arweinydd y blaid fwyaf, ond nid o angenrheidrwydd. Gelwir arweinydd yr ail blaid fwyaf yn 'Arweinydd Gwrthblaid Ei Mawrhydi'. Ers 1963, drwy gonfensiwn, mae'r Prif Weinidog yn aelod o Dŷ'r Cyffredin yn hytrach na Thŷ'r Arglwyddi. Daw'r enw 'Cyffredin' (neu 'commons') o'r gair Saesneg communes, sef gwahanol 'gymunedau' oddi fewn i'r Tŷ.[1] Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|