Tafarndy'r Nag's Head, Wrecsam
Tafarn hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Nag's Head. LleoliadMae'r Nag's Head yn sefyll ar Stryt y Bryn (Saesneg: Mount Street), ger y gyffordd rhwng Stryt Yorke a Stryt Twthil, i lawr y bryn o ganol y ddinas, o dan Eglwys San Silyn. HanesMae'r adeilad yn dyddio'n ôl i 1661.[1] Yn wreiddiol roedd yn sefyll yn ardal marchnad Sgwâr Swydd Efrog (Yorkshire Square).[2] Roedd cwrw yn cael ei bragu gan y Nag's Head ymhell cyn i Arthur Soames o fragdy Soames brynu'r safle yn 1879. O 1834 hyd 1874, bragwyr y dafarn oedd William a Thomas Rowlands.[3] Yn 1894, adeiladwyd simnai o frics coch fel rhan o estyniad y bragdy. Yn 1931, cyfunwyd y bragdy Soames â dau fragdy arall er mwyn creu bragdy Border, a daeth bragdy Stryt y Twtil yn ganolfan i'r gwaith cynhyrchu. Yn 1984, cafodd y bragdy ei gau ar ôl iddo gael ei werthu i gwmni Marstons, ond mae'r Nag's Head ar agor o hyd.[4] DisgrifiadGyda simnai bragdy Soames a bragdy Stryt y Twthil dros y stryd, mae'r Nag's Head yn rhan o grŵp o adeiladau sy'n gysylltiedig â hanes y diwydiant bragu yn Wrecsam. Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei adnewyddu'n helaeth mewn arddull Duduraidd yn y 19eg ganrif, pan ddaeth yn rhan o fragdy Soames. Mae'r adeilad wedi cadw llawer o elfennau neo-Duduraidd sy'n dyddio'n ôl i'r adnewyddiad, ond dros y blynyddoedd mae rhan o'r rhain wedi diflannu.[5] Cyfeiriadau
Information related to Tafarndy'r Nag's Head, Wrecsam |