Telford a Wrekin
Awdurdod unedol a bwrdeistref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Telford a Wrekin neu Telford a Din Gwrygon (Saesneg: Borough of Telford and Wrekin). Mae gan yr ardal arwynebedd o 290 km², gyda 179,854 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag awdurdod unedol Swydd Amwythig i'r gogledd, y gorllewin a'r de, a Swydd Stafford i'r dwyrain. Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1998. Cyn hynny roedd yn ardal an-fetropolitan (dan yr enw The Wrekin) yn sir an-fetropolitan Swydd Amwythig, a ddiddymwyd yn ei thro yn 2009, a disodlwyd gan awdurdod unedol Swydd Amwythig. Rhennir yr awdurdod yn 29 o blwyi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Lleolir pencadlys yr awdurdod yn nhref newydd Telford. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Dawley, Madeley, Newport, Oakengates a Wellington. Gweler hefydCyfeiriadau
|