Traddodiad llafarFfurf ar gyfathrebu gan fodau dynol sy'n trosglwyddo gwybodaeth, celf, llên, syniadau, a deunydd diwylliannol arall o oes i oes yw traddodiad llafar.[1][2] Trosglwyddir yr hynny ar lafar, drwy gyfrwng sgwrs neu anerchiad neu ar gân, gan gynnwys straeon gwerin, baledi, llafarganau, a phenillion. Trwy draddodiad llafar mae cymdeithas yn trosglwyddo llên lafar, hanes llafar, cyfraith lafar, a ffurfiau eraill ar wybodaeth o'r hen genhedlaeth i'r genhedlaeth iau heb yr angen am system ysgrifennu. Hwn felly oedd y prif fodd o drosglwyddo gwybodaeth mewn cymdeithasau cynlythrennog, ac yn agwedd bwysig hefyd mewn cymdeithasau llythrennog yn gyfochrog â llên ysgrifenedig. Mae crefyddau'r dwyrain megis Bwdhaeth, Hindŵaeth, a Jainiaeth, er enghraifft, wedi defnyddio traddodiadau llafar ar y cyd â systemau ysgrifennu i drosglwyddo'r ysgrythur ganonaidd, gwybodaeth seciwlar megis Sushruta Samhita, emynau, a mythau o oes i oes.[3][4] Llên lafar
Ffuglen a barddoniaeth a drosglwyddir o oes i oes ar lafar yn hytrach na thrwy ysgrifennu yw llên lafar. Gall gyfeirio at holl lenyddiaeth y gymdeithas gynlythrennog yn ogystal â thraddodiadau llafar y werin mewn cymdeithasau llythrennog.[5] Bu traddodiad o lên lafar gan y mwyafrif o gymdeithasau cynlythrennog, gan gynnwys straeon gwerin, chwedlau, diarhebion, rhigymau, dychmygion, a damhegion yn ogystal â gweithiau traethiadol hir. Cafodd mytholeg ac arwrgerddi'r Henfyd eu haddasu a'u datblygu gan feirdd llafar dros ganrifoedd cyn iddynt gael eu cofnodi'n ysgrifenedig. Mae llên lafar yn gorgyffwrdd i raddau helaeth â llên gwerin. Cyfeiriadau
|