Walford Davies
Cerddor a chyfansoddwr oedd Syr Henry Walford Davies (6 Medi 1869 – 11 Mawrth 1941) a oedd yn adnabyddus i lawer a wrandawai arno’n darlledu am gerddoriaeth ar y radio. Bywyd a gwaithGaned Walford Davies yng Nghroesoswallt, Lloegr. Gyrfa academaiddYmunodd â chôr Capel Sant Siôr, Windsor pan yn 12 oed, lle y bu yn astudio ac yna’n cynorthwyo yr organydd Syr Walter Parratt. Aeth oddi yno yn 1890 i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol. By’n athro gwrthbwynt yn y coleg o 1895 hyd at 1903. O 1919 hyd at 1926 bu’n athro cerdd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu’n weithgar yn hybu cerddoriaeth Gymreig yn ei swydd fel cadeirydd Cyngor Genedlaethol Cerddoriaeth Cymru a ddaliodd o 1919 hyd at ei farw. Cerddor a ChyfansoddwrBu’n organydd mewn nifer o eglwysi gan gynnwys Eglwys Temple, Llundain a Chapel Sant Siør, Windsor. Bu’n gyfarwyddwr cerdd mewn sawl man gan gynnwys bod yn gyfarwyddwr cerdd i’r Awyrlu Brenhinol ac yn arweinydd Côr Bach. Cyfansoddodd Walford Davies weithiau ar gyfer cerddorfeydd, bandiau pres, corau ac unawdwyr. Gweithiau crefyddol oedd y mwyafrif o’i gyfansoddiadau. Darlithydd a darlledwrYn y 1920au dechrewyd gyhoeddi recordiau o ddarlithoedd Walford Davies ar fiwsig. O 1926 hyd at 1939 bu’n darlledu ar bwnc miwsig clasurol ar wasanaeth radio y BBC. Oherwydd y gwaith radio yma y daeth yn adnabyddus i lawer. Ar goroni'r brenin Siarl III, ym mis Mai 2023, canodd Roderick Williams y "Confortare" gan Davies.[1] Anrhydeddau
GweithiauDetholiad o’i gyfansoddiadau
Llyfrau
Llyfryddiaeth
Llyfryddiaeth ar y we
Prif ffynonellau yr erthygl
Cyfeiriadau
|