Y Gaer
Caer Rufeinig yn ardal Brycheiniog, de Powys, yw Y Gaer (Lladin: Cicvcivm; hefyd Brecon Gaer yn Saesneg). Gorwedd ar lan Afon Wysg ger pentref Aberysgir, tua dwy filltir i'r gorllewin o dref Aberhonddu; cyfeiriad grid SO003296. Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: BR001.[1] Lleolir y gaer ar drum isel uwchben cymer afonydd Wysg ac Ysgir. Sefydlwyd y gaer yma gan y Rhufeiniaid yn fuan ar ôl 80 OC i reoli'r ardal. Roedd yn gartref i garsiwn yr ala Vettonum, oedd yn cynnwys 500 o farchogion. Cloddiwyd y safle yn 1924-5. Dengys tystiolaeth y cloddio fod y gaer bridd a phren wreiddiol wedi cael ei droi'n gaer gerrig tua'r flwyddyn 140 (yng nghyfnod Trajan yn ôl pob tebyg). Bu garsiwn yno tan o gwmpas 200 ac ymddengys iddi gael ei defnyddio eto tua'r flwyddyn 300. Darganfuwyd olion y pencadlys a baddondy Rhufeinig. Gorweddai dref fechan ger y gaer, tu allan i'r porth gogleddol. Roedd yna rwydwaith o ffyrdd o gwmpas y gaer yn ei chysylltu â chaerau Caerdydd, Caerwent a Chaerleon i'r de, Llanymddyfri a Maridunum (Caerfyrddin) i'r gorllewin, a Chastell Collen i'r gogledd. Heddiw gellir gweld y pyrth gorllewinol a deheuol a rhannau o'r muriau; ychwanegwyd at yr rhain yn yr Oesoedd Canol. Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: BR001.[1] Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|