Y gosb eithafY gosb eithaf yw’r term a ddefnyddir am y wladwriaeth yn dienyddio drwgweithredwr fel cosb am drosedd. Yn hanesyddol, defnyddid y gosb eithaf i ryw raddau gan bron bob cymdeithas trwy’r byd. Erbyn hyn mae bron pob gwlad yn Ewrop wedi diddymu’r gosb eithaf, ac mae hyn hefyd yn wir am lawer o wledydd eraill. Defnyddir y gosb eithaf o hyd yn yr Unol Daleithiau, Tsieina, Japan, India, llawer o wledydd Affrica a’r rhan fwyaf o wledydd y Dwyrain Canol. Yn y rhan fwyaf o wledydd sy’n parhau i ddefnyddio cosb marwolaeth, fe’i cedwir ar gyfer troseddau fel llofruddiaeth neu deyrnfradwriaeth, ond mae rhai gwledydd, megis Tsieina, yn ei defnyddio ar gyfer troseddau eraill, er enghraifft llygredd. Yn 2006, dienyddiwyd drwgweithredwyr yn Bahrain, Bangladesh, Botswana, Tsieina, Yr Aifft, Gini Gyhydeddol, Indonesia, Iran, Irac, Japan, Iorddonen, Gogledd Corea, Coweit, Maleisia, Mongolia, Pacistan, Sawdi Arabia, Singapôr, Somalia, Sudan, Syria, Wganda, yr Unol Daleithiau, Fietnam a Yemen.[1] Roedd 91% o’r rhain mewn chwech gwlad:
Y gosb eithaf yng NghymruYng Nghymru, roedd Cyfraith Hywel yn caniatau dienyddio drwgweithredwr dan rai amgylchiadau, ond fel rheol gellid osgoi dienyddio am lofruddiaeth, er enghraifft, trwy dalu galanas. Wedi 1282, defnyddid Cyfraith Lloegr fel cyfraith droseddol yng Nghymru, a than hon gellid dienyddio am nifer fawr o droseddau. Gweinyddwyd y gosb eithaf am y tro olaf yng Nghymru ar 6 Mai 1958, pan grogwyd Vivian Tweed yng Ngharchar Abertawe am lofruddio William Williams. Cafodd 130+ o garcharorion eu clirio o'r drosedd a'u rhyddhau ers y flwyddyn 1976. Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|