Anws
Un o organau'r system dreulio mewn pobl ac anifeiliaid yw'r anws (o'r Lladin anus ("cylch"), drwy'r Saesneg).[1] Agorfa ar ben ôl y llwybr ymborth ydyw, a'i bwrpas yw ysgarthu, sef allwthio o'r corff y gwastraff lled-solet a gynhyrchir wrth dreulio bwyd. Gall ysgarthion, yn dibynnu ar yr anifail, gynnwys mater anhreuliadwy megis esgyrn,[2] olion bwyd megis seliwlos neu lignin wedi i'r corff dynnu'r holl faetholion ohono, tocsinau, ac endosymbiontiaid meirw neu ormodol megis bacteria'r stumog a'r coluddyn. Un agen yn unig, a elwir cloaca, sydd gan amffibiaid, ymlusgiaid, ac adar ar gyfer troethi ac ysgarthu, cyfathrach rywiol, a dodwy. Cloaca sydd hefyd gan famaliaid yr urdd Monotremata (yr hwyatbig a theulu'r ecidna), nodwedd o bosib a etifeddir gan yr amniotau cynharaf drwy linach y therapsidau. Medda'r bolgodogion ar un twll ar gyfer ysgarthu baw a throeth, a gwain ar wahân gan y fenyw ar gyfer atgenhedlu (cyplu â'r gwryw ac esgor ar epil). Yn achos y mamaliaid hynny sy'n cario'r ffetws yn y groth ac yn ei fwydo drwy'r brych, mae'r fenyw yn meddu ar dair agen wahanol ar gyfer ysgarthu (anws), troethi (wrethra), ac atgenhedlu (gwain), a'r gwryw yn meddu ar anws i ysgarthu ac wrethra a chanddi dwy biben ar wahân i droethi ac alldaflu. Cam pwysig yn esblygiad anifeiliaid amlgellog oedd datblygiad yr anws. Ymddengys iddo ddigwydd dwywaith, yn esblygiad y Protostomia a'r Deuterostomia fel ei gilydd. Cyfeiriadau
|