Caerwedros (pentref)
Pentref bychan gwledig yng nghymuned Llandysiliogogo, Ceredigion, yw Caerwedros.[1] Mae'n gorwedd tua dwy filltir a hanner i'r de o'r Ceinewydd a milltir a hanner o Gwmtydu ar lan Bae Ceredigion. Saif ar groesffordd ar godiad tir rhwng afonydd Soden a Ffynnon Ddewi. Mae'n rhan o gymuned a ward Llandysiliogogo. Roedd y pentref yn ganolbwynt i gwmwd canoloesol Caerwedros, un o bedwar cwmwd cantref Is Aeron. Tyfodd y pentref o amgylch Castell Caerwedros. Codwyd y castell tomen a beili hwn gan yr Arglwydd Richard de Clare tua'r flwyddyn 1110 pan ymosododd y Normaniaid ar Geredigion. Llosgwyd y castell i'r llawr gan fyddin Owain Gwynedd yn 1136 yn ystod ei gyrch i Geredigion yn dial am farwolaeth ei chwaer, Gwenllian. Mae olion y domen dal i'w gweld yng nghanol y pentref. Bron i naw can mlynedd yn ddiweddarach mae nifer o drigolion brodorol yr ardal yn dal i gyfeirio at y pentref fel 'Y Castell'. Heddiw, mae Neuadd Goffa Caerwedros yn ganolfan prysur i weithgareddau cymdeithasol y pentref a'r ardal gyfagos. Ailadeiladwyd y neuadd yn 2013 ar ôl i'r neuadd wreiddiol (codwyd yn 1953) losgi'n ulw yn dilyn cael ei tharo â mellten ar Ddydd Calan 2007. Caewyd yr ysgol gynradd, Ysgol y Castell, yn 2010 pan agorwyd ysgol fro newydd yn Post Mawr - Ysgol Bro Siôn Cwilt. Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Llwyndafydd, Nanternis a Cross Inn. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |