Talgarreg
Pentref yng nghymuned Llandysiliogogo, Ceredigion, Cymru, yw Talgarreg.[1] Fe'i lleolir yn ne'r sir ar groesffordd ar y B4459, tua hanner ffordd rhwng y Ceinewydd a Llandysul. Gorwedd Talgarreg ym mhlwyf eglwysig Llanarth. Llifa Afon Cletwr heibio i'r pentref ar ei ffordd i ymuno ag Afon Teifi tua 7 milltir i'r de. 'Tir Dyffryn Cletwr' yw'r enw traddodiadol am yr ardal. Mae Talgarreg yn bentref Cymraeg ei hiaith o hyd, gyda'r mwyafrif yn siarad yr iaith. Mae Talgarreg yn gartref i nifer o fusnesau bach a ffermydd, yn bennaf defaid a llaeth. Mae ganddi hefyd dafarn, Glan-yr-Afon Arms, sydd yng nghanol y pentref. Cynrychiolir y pentref yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2][3] Enwogion
AddysgYsgol Gymunedol TalgarregNid ysgol bresennol Talgarreg yw ysgol gyntaf yr ardal, ond hon yw’r ysgol gyntaf a sefydlwyd dan gyfrifoldeb yr Awdurdod. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn 1875 ac agorwyd yr ysgol yn 1877 gyda hyd at 147 o ddisgyblion y flwyddyn honno.[10] Ysgol gymunedol go iawn yw Talgarreg ymhob ystyr o'r gair gyda'r gymuned â'i diwylliant cyfoethog yn arwain ac yn llywio'r gweithgarwch a hynny yn cael ei gynnal a’i hybu gan y staff. Yn naturiol ac yn unol â'i threftadaeth, ysgol Gymraeg ei hiaith a Chymreig ei natur yw Ysgol Talgarreg a dathlir a hyrwyddir hynny pob cyfle posibl. Yn y blynyddoedd diwethaf mae rhwng 30 a 70 o blant wedi bod yn mynychu'r ysgol.[10] Gefeillir yr ysgol â Skol Diwan, Guingamp, yn Llydaw.[5] Cylch Meithrin TalgarregMae Cylch Meithrin Talgarreg yn aelod o Mudiad Meithrin. Agorwyd y Cylch yn 1975 yn yr ysgol a symudwyd yng nghanol y nawdegau i’r neuadd. Caeodd y Cylch ei drysau yn 2003, ond ail agorwyd y Cylch Ti a Fi yn Ionawr 2007 a’r Cylch Meithrin ym Medi 2007 ac mae’n dal i fynd o nerth i nerth. Darperir addysg a gofal i blant bach o ddwy i bedair oed a nod y Cylch ydy creu awyrgylch gartrefol, hapus a diogel er mwyn i blant flodeuo. Maent yn gwrando ar lais y dysgwr wrth ddarparu gweithgareddau addysgiadol sydd o ddiddordeb i bawb, trwy gyfrwng y Gymraeg.[10] Ysgol SulCynhelir Ysgol Sul yng nghapel Pisgah, ger Talgarreg.[10] AddoldaiCapel PisgahSefydlwyd Capel Annibynwyr Pisgah yn 1820-21. Fe'i hailadeiladwyd ym 1871 ar sail y Capel cyntaf ond gan ei gwneud yn fwy o faint oherwydd y twf yn y gynulleidfa.[5] Mae'n un o chwe chapel o dan ofalaeth y Parch Carys Ann BA. Ceir dwy oedfa y mis gyda’r Gweinidog, gyda’r Suliau eraill yn cael eu cymryd gan wahoddedigion.[10] Capel y FadfaMae Capel y Fadfa yn un o dri ar ddeg o gapeli Undodaidd yn Ne Ceredigion.[10] Cytunwyd i adeiladu'r Capel cyntaf ym Mwlchyfadfa ym 1812, a gosodwyd y garreg sylfaen i'r Capel presennol ym 1905.[5] Nid oes cyfyngiadau ar ddaliadau penodol – anogir unigolion i weithio ar ei ffydd eu hunain. Yr egwyddor yw bod gan unigolion ryddid i safbwyntiau a chredoau sydd yn seiliedig ar gariad gan hwyluso goddefgarwch tuag at safbwyntiau eraill. Mae’r gynulleidfa yn cyfarfod bob pythefnos trwy gyfrwng y Gymraeg.[10] Eglwys Dewi Sant TalgarregCafwyd agoriad swyddogol Eglwys Dewi Sant ar y 19eg o Fai, 1899.[5] Yn ôl yr arfer, mae Eglwys Talgarreg yn cynnal gwasanaethau dwyieithog bob pythefnos, sef y Sul cyntaf a’r trydydd o bob mis, sy’n cynnwys Boreol Weddi a Chymun.[10] Sefydliadau a Chymdeithasau eraillNeuadd Goffa TalgarregAdeiladwyd y Neuadd Goffa i gofio am fechgyn o’r ardal a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd 1914-1918.[10] Agorwyd y Neuadd ar yr 11eg o Orffennaf, 1923.[5] Mae’r Neuadd yn adnodd cymunedol sy’n cael ei redeg gan Bwyllgor sydd â'i aelodau yn gynrychiolwyr o amrywiol sefydliadau'r pentref. Aelodau'r Pwyllgor, yn eu tro yn fisol, sydd hefyd yn glanhau’r Neuadd. Ar hyd y blynyddoedd mae’r Pwyllgor wedi llwyddo i ddenu grantiau o amrywiol lefydd i allu gwneud gwelliannau i'r adeilad ac i brynu tir i ddarparu maes parcio i'r defnyddwyr. Mae defnydd helaeth yn cael ei wneud o’r Neuadd gan y Cylch Meithrin, yr ysgol, Merched y Wawr a’r gwersi ioga. Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau yn y Neuadd – boreau coffi, swper i'r ardalwyr, dramâu, cyngherddau, te bedydd, partion penblwydd ac ambell i wledd briodas. Mae’r Neuadd ar gael i bawb i’w logi ar gyfer digwyddiadau. Un agwedd arbennig yn hanes y Neuadd yw’r holl waith gwirfoddol sydd yn cael ei gyflawni wrth wella a chynnal a chadw’r Neuadd a hefyd wrth ei redeg o ddydd i ddydd. Agwedd sydd yn nodweddiadol o holl weithgarwch y pentref hwn ar hyd y blynyddoedd.[10] Aelwyd ac Adran yr UrddCynhaliwyd agoriad Aelwyd Talgarreg ar Ragfyr 27, 1941. Yn draddodiadol mae Aelwyd yr Urdd i bobl ifanc dros 14 ac Adran yr Urdd i'r rhai hynny dan 14, ac mae'r ddau yn rhan o fudiad Urdd Gobaith Cymru. Prynwyd adeilad yr hen ffatri wlân yn y pentref, sydd nawr ar glôs Islwyn, gan Bwyllgor y Pentref a dyma ble roedd yr Aelwyd - ble roedd cyngherddau; dramâu; gêmau; dosbarthiadau llenyddiaeth a chrefftau gwledig; darlithoedd; gyrfaoedd chwist; a thwmpathau dawns yn cael eu cynnal. Oherwydd dirywiad yr adeilad symudodd peth o'r gweithgarwch yn raddol i'r ysgol ac i'r Neuadd Goffa. Gwerthwyd adeilad yr Aelwyd yn y diwedd, yn 1993, i deulu Islwyn. Ers hynny mae'r Adran wedi bod yn cyfarfod yn y Neuadd Goffa. Mae plant blynyddoedd 2 i 9 wedi bod yn cwrdd bob yn ail wythnos yn ystod tymor yr Hydref a'r Gwanwyn. Nid oes Aelwyd fel y cyfryw yn y pentref, ond mae dau Glwb Ffermwyr Ifainc hynod weithgar a bywiog yn gwasanaethu'r pentref ac yn cadw'r bobl ifainc yn brysur a hynny yn llwyr ac yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg - Clwb Ffermwyr Ifainc Pontsian a Chlwb Ffermwyr Ifainc Caerwedros.[10] Cymdeithas yr HenoedSefydlwyd Cymdeithas Henoed Talgarreg ym mis Hydref 1967 gyda’r nod o hyrwyddo lles cyffredinol henoed Talgarreg. Mae’r Gymdeithas wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Mae cynrychiolwyr o fudiadau’r pentref yn aelodau o bwyllgor y Gymdeithas. Mae nifer o newidiadau wedi’u gweld ers sefydlu’r Gymdeithas ond mae’r nod yn dal yr un peth, sef creu cyfleoedd i gymdeithasu ac i ddod â phobl ynghyd. Erbyn hyn, diffinir yr Henoed fel trigolion 70+ oed o fewn côd post Talgarreg sydd wedi byw o fewn y dalgylch ers dwy flynedd.[10] MabolgampauMae diwrnod mabolgampau'r pentref yn digwydd unwaith y flwyddyn yn ystod yr haf. Erbyn hyn mae'r diwrnod yn cael ei gynnal yng nghae chwarae’r ysgol. Mae'r gweithgarwch wedi amrywio ychydig dros y blynyddoedd - gyda charnifal i ddechrau - gyda fflôt o Dalgarreg, Pantcoch, Pisgah a Bwlchyfadfa; ac yna cystadlaethau gwisg; rasys o bob math, gan gynnwys y Ras Llwybr Tarw; gemau rownderi; cystadleuaeth Tynnu Rhaff; a Helfa Drysor yn digwydd y noson gynt. Hyd yn o ddiweddar roedd Sioe Gŵn hefyd yn rhan o'r diwrnod. Cynhaliwyd diwrnod mabolgampau’r pentref am y tro cyntaf yn 1956.[10][5] Merched y WawrSefydlwyd Merched y Wawr Talgarreg ar 15fed o Fawrth 1968, un o ganghennau cyntaf sir Geredigion. Pwrpas y mudiad oedd bod menywod a oedd heb y cyfle na’r amser i fynd allan i weithio oherwydd amgylchiadau teuluol, fel magu plant a helpu ar y fferm deuluol, yn cael cyfle i gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd, fel gwau, crosio, trefnu blodau, caligraffi ac yn y blaen, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gangen yn cwrdd yn fisol ar nos Fawrth cyntaf y mis yn y Neuadd Goffa.[10] Cymdeithas Henebion TalgarregMae Cymdeithas Henebion Talgarreg yn cwrdd ers dros chwarter canrif, yn cwrdd yn nhafarn Glan-yr-afon unwaith y mis, ar ddyddiau Iau olaf y mis fel arfer. Mae'r Gymdeithas yn cynnal sioe yn flynyddol yn y pentref - Sioe Hen Beiriannau, Gweithio a Chynnyrch gydag elw o'r sioe yn mynd at achosion da o ddewis y Gymdeithas.[10] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Trefi a phentrefi
Trefi |