Chris Law
Gŵr busnes a gwleidydd o'r Alban yw Chris Law neu Christopher Murray Alexander Law (ganwyd 21 Hydref 1969); fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Orllewin Dundee, yr Alban. Mae Chris yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Cyn 2015 roedd y sedd wedi'i dal gan y Blaid Lafur am gyfnod o 65 mlynedd.[1] Hyfforddwyd Law fel cogydd mewn tŷ bwyta Ffrengig cyn iddo raddio yn y brifysgol, ac yna am 10 mlynedd bu'n rhedeg cwmni motobiecio yn yr Himalaya a deg mlynedd wedyn fel Ymgynghorydd Ariannol. Refferndwm Annibyniaeth yr Alban, 2015Yn ystod yr ymgyrch, teithiodd o gwmpas yr Alban mewn hen frigad dân o'r enw 'Ysbryd Annibyniaeth', gan annog pobl i bleidleisio dros annibyniaeth i'w wlad; cafodd gryn sylw ac mae'n gymeriad lliwgar.[2] Etholiad 2015Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Chris Law 27684 o bleidleisiau, sef 61.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 33.0 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 17092 pleidlais. Gweler hefydCyfeiriadau
|