David Rees (gwleidydd)
Gwleidydd Llafur Cymru yw David Rees. Mae'n Aelod o'r Senedd dros Aberafan ers 2011.[1] Fe'i etholwyd yn ddirprwy Lywydd y Cynulliad ar 12 Mai 2021. Bywyd cynnar ac addysgMagwyd Rees ym Mhort Talbot a fe'i addysgwyd mewn ysgolion lleol cyn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle enillodd radd anrhydedd mewn Peirianneg a chymhwyster dysgu ôl-raddedig. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn y Brifysgol dechreuodd yrfa ym myd addysg. Gweithiodd fel athro yn Ysgol Gyfun Cynffig ym Mynydd Cynffig, ac yna aeth yn ddarlithydd cyfrifiadureg yng Ngholeg Afan cyn symud i Addysg Uwch. Cyn dod yn AC dros Aberafan roedd yn Ddeon Cynorthwyol y Gyfadran ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn, tra'n gweithio mewn Addysg Uwch, enillodd gymhwyster ôl-raddedig MSc pellach, ac yn 2016 roedd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth.[2] Gyrfa wleidyddolYmunodd Rees â'r Blaid Lafur ym 1982 ac mae wedi bod yn aelod gweithgar ers hynny. Mae wedi dal nifer o swyddi o fewn y Blaid ac roedd yn Ysgrifennydd Etholaeth y Blaid Lafur dros Aberafan rhwng 2005 a 2011, gan sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar etholiad y Cynulliad yn 2011. Mae'n aelod o Unite ac ar hyn o bryd yn gweithredu fel cynullydd Grŵp Unite yn y Cynulliad. Yn 2016 roedd hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad, yn craffu ar ddeddfwriaeth y llywodraeth ac yn cynhyrchu adroddiadau amserol yn seiliedig ar ymchwiliad y pwyllgor. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy'n ystyried materion ar draws sawl portffolio, yn enwedig iechyd ac addysg, a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Trwy ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol, mae'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i wella amodau economaidd a chymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Yn ogystal mae Rees yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth . Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, tlodi plant, ymgysylltu ieuenctid, addysg ac adfywio.[3]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |