Port Talbot
Tref ddiwydiannol a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Port Talbot.[1][2] Saif ar lan Afon Afan ar ochr dwyreiniol Bae Abertawe. Mae Caerdydd 44.9 km i ffwrdd o Bort Talbot ac mae Llundain yn 256.1 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe, sy'n 12 km i ffwrdd. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[4] HanesCnewyllyn y dref fodern yw'r hen dref Aberafan sydd ar ochr orllewinol Afon Afan, yn ogystal â phentrefi hynafol eraill fel Baglan a Groes. Crewyd Port Talbot ei hun ym 1840 gydag agoriad y dociau newydd ar ochr ddwyreiniol yr afon gan y teulu Talbot o Swydd Wilton a oedd yn berchen ar Abaty Margam ar y pryd. Mae'r dref fodern hefyd yn cynnwys ardaloedd Taibach, Traethmelyn, Margam a Felindre. Felly Port Talbot yw enw rhan canolog o'r dref a hefyd enw'r dref gyfan. Mae llawer yn defnyddio Aberafan fel enw Cymraeg Port Talbot er yr enw safonol yw Porth Talbot. Enw amgen yw Porth Afan. Enwogion
Gefeilldrefi Port Talbot
Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |