Baglan, Castell-nedd Port Talbot
Pentref mawr a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Baglan.[1][2] Mae'n hen bentref a phlwyf cynt sydd nawr yn rhan o dref Porth Afan ar ochr ddwyreiniol Bae Abertawe. Mae gan ardal cymuned Baglan 6,488 o drigolion, 10% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001). Enwyd y pentref ar ôl Sant Baglan. Bu Sant Baglan yn cael ei ddysgu ym mynachlog Llanilltud Fawr gan Illtud, fel Dewi Sant a llawer o seintiau eraill. Fel nhw aeth allan i sefydlu mynachdai eraill. Mae ei enw ar bentrefi Baglan a Llanfaglan. Mae Baglan ar lethrau Mynydd Baglan. Rhwng Baglan a'r môr mae ardal Bae Baglan, ardal dywydog sydd wedi bod yn gartref i ddywidiant ers yr Ail Ryfel Byd. Roedd gweithfeydd cemegol BP Baglan Bay yn amlwg i bawb am ddegawdau ond nawr maen nhw wedi cael eu disodli gan ddiwydiannau amgen modern fel rhan o ddatblygiad Parc Ynni Baglan. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[3]. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7] Enwogion
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |