Resolfen
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Resolfen (Saesneg: Resolven). Lleolir yn nyffryn Afon Nedd, ar bwys yr A465, sef ffordd 'Blaenau'r Cymoedd'. Y pentref yw prif annedd plwyf Resolfen, ac ynghyd â phlwyf Clun a Melincwrt mae'n cyfansoddi ward etholaeth Resolfen. Mae nifer o ystadau diwydiannol yn yr ardal o'i amgylch, sydd wedi dioddef yn ystod yr 1980au a'r 1990au. Lleolir marchnad dan dô Rheola ar safle hen ffatri ger llaw. Mae'r ardal ehangach yn wledig a deiniadol ac mae Camlas Nedd yn llifo yr ochr arall i'r A465. Mae'r pentref hefyd yn gyn-gartref i'r AS Peter Hain. Mae'r band roc arbrofol, Spray Me Spray You, wedi recordio demos ar gyfer eu albwm yng Nghanolfan Cymdeithas Resolfen. Daw'r band El Goodo o'r pentref hefyd. Mae'r pentref hefyd yn lleoliad ar gyfer un o gymalau mwyaf adnabyddus Rali Prydain Fawr, Cymru ers sawl blynedd. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[2] Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Trefi a phentrefi
Trefi |