Edward Herbert
Roedd Edward Herbert (3 Mawrth 1583 – 20 Awst 1648) neu'r Barwn Herbert o Llanffynhonwen yn llenor ac yn athronydd a anwyd yn Swydd Amwythig. Mae ei waith Life yn dilyn ei deithiau o gwmpas yr Iseldiroedd ac fel llysgennad yn Ffrainc. Yn De Viritate (1623) dadleuodd fod rheswm yn holl bwysig o fewn y ffydd Gristnogol ac ar sail y gwaith hwn y sefydlwyd deistiaeth. Roedd yn frawd i'r bardd George Herbert. Ei ŵyr oedd sylfaenydd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. BywgraffiadPriododd ei gyfnither cyntaf, Mary pan oedd yn 15 oed a hithau'n 21. Fe'i addysgwyd yn Rhydychen lle dysgodd Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg. Gellir ei alw'n "dad athroniaeth Gymreig"[angen ffynhonnell]; roedd ei dad Richard Herbert o Gastell Trefaldwyn, un o ganghennau Iarllaeth Penfro. Bu hefyd yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ac yn ynad a siryf Mynwy. Llyfryddiaeth ddethol
|