Richard Herbert
Marchog, Iorcydd a noddwr beirdd o'r Oesoedd Canol oedd Syr Rhisiart Herbert neu Richard Herbert o Golbrwg (bu farw 1469). Roedd yn frawd iau i William Herbert, Iarll Penfro ac yn fab i Syr William ap Thomas o Gastell Rhaglan a Gwladys ferch Dafydd Gam, ac yn ŵyr felly i Ddafydd Gam. Priododd Marged, chwaer Syr Rhys ap Thomas (1449 - 1525) un o uchelwyr mwyaf grymus de Cymru. Fel ei frawd roedd yn deyrngar i'r Iorciaid yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Credir ei fod wedi ymladd ysgwydd wrth ysgwydd gyda’i frawd ym Mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd llu Siasbar Tudur gan Edward, mab dug Iorc. Ar ôl i Edward gael ei gydnabod yn frenin Lloegr, bu Rhisiart yn cyflawni swyddogaethau pwysig yn Ne Cymru e.e. oedd cyd-arweinydd yr ymgyrch yn erbyn Castell Carreg Cennen yn 1462. Yn 1468 arweiniodd treuan o fyddin Wiliam Herbert yn erbyn castell Harlech, a ddelid gan y Lancastriaid. Ar y ffordd yno fe drechodd lu Siasbar Tudur ger Dinbych. Gwobrwywyd ef a'i frawd Rhisiart Herbert yn hael gan y brenin a gwobrwywyd y ddau gyda lawer o diroedd yn swyddi Henffordd a Chaerloyw. Daliwyd Rhisiart a'i frawd ym mrwydr Edgecote ar 24 Gorffennaf 1469, gan eu gelyn, Richard Neville, Iarll Warwick. Aethpwyd â'r ddau i Northampton lle cawsant eu dienyddio. Dygwyd corff Rhisiart yn ôl i’r Fenni a'i gladdu yno yn eglwys Priordy Mair ac mae ei feddrod ysblennydd yno hyd heddiw. PerthnasauEi wraig oedd Margred ferch Tomas ap Gruffudd ap Nicolas ac roedd ganddo fab o'r enw Wiliam o Golbrwg ac eraill o bosib. Roedd yn hanner brawd i feibion Syr Rhosier Fychan. Noddwr y beirddCanodd Bedo Brwynllys nifer o gerddi iddo, ac ystyrid ef yn un o noddwyr hael beirdd yr Uchelwyr. Erys un cywydd a erys iddo gan Guto’r Glyn a cheir awdl iddo gan Lewys Glyn Cothi, cywydd mawl gan Ieuan Deulwyn ac awdl gan Huw Cae Llwyd i’w fab, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg. Ceir hefyd ymryson rhwng Ieuan Deulwyn a Bedo Brwynllys a gynhaliwyd ar ei aelwyd ef yng Ngholbrwg. Yn olaf, ceir marwnadau gan Fedo Brwynllys (Lewis 1982: cerdd 30) a Hywel Dafi a marwnad i Risiart a’i frawd Wiliam, iarll Penfro, gan Huw Cae Llwyd.[1] Gweler hefydCyfeiriadau
Llyfryddiaeth
|