Iorciaid
![]() Cangen o deulu brenhinol y Plantagenets oedd Teulu'r York neu Iorciaid, a gychwynodd gydag Edmund o Langley, dug Efrog (marw 1402) sef pedwerydd mab (a fu byw) i Edward III, brenin Lloegr. Daeth tri o aelodau'r teulu'n frenhinoedd ar Loegr. Ar y linell waed hon yr hawliwyd coron Lloegr gan y teulu, ac ar eu perthynas i Lionel, Duke of Clarence, ail fab (a fu byw) Edward III.[1][2] Daeth y llinach Iorcaidd i ben pan laddwyd Rhisiart III, brenin Lloegr ym Mrwydr Bosworth yn 1485. Daeth y linell waed i ben pan y bu farw Edward Plantagenet, 17fed Iarll Warwick yn 1499. Y llinach drwy Edward IIIPriododd mab Edmund o Langley, dug Efrog, sef Richard (m. 1415) gydag Anne, chwaer ac aeres Edmund Mortimer, pumed iarll Mawrth (m. 1425). Drwy Risiart yr hawliodd Iorciaid Rhyfel y Rhosynnau goron Lloegr. Roedd Anne yn orwyres i Lionel, dug Clarence, yr ail o feibion Edward III i dyfu'n oedolyn. Etifeddodd ei mab Richard dug York (m. 1460) holl diroedd y Mortimers, gan ei fam. Etifeddodd gan ei dad y trydydd o linachau a darddai o Edward III. Pan y bu farw Edmund Mortimer, 5ed iarll March, yn 1425 heb blant, etifeddodd ei eiddo yntau hefyd. Roedd Richard, felly, drwy deulu'r Mortimers yn ddisgynnydd i Gwladus Ddu, merch Llywelyn ap Iorwerth, yn aer i hawliau ac etifeddiaeth Tywysogion Gwynedd.[3]
Gweler hefydCyfeiriadau
Information related to Iorciaid |