Fesigl semenol
Mae'r fesigl semenol yn un o bâr o chwarennau a geir yn yr isgeudod, sy'n gweithredu i gynhyrchu llawer o gynhwysion cyfansoddol semen. Maent yn darparu rhwng 60 a 70% o gyfanswm cyfaint y semen[1]. StrwythurMae'r chwarennau semenol yn ddau diwb 5 cm o hyd. Fe'u lleolir rhwng ffwndws y bledren a'r rectwm. Eu perthynas anatomegol bwysicaf yw gyda'r vas deferens, sy'n cyfuno â dwythell y fesigl semenol i ffurfio'r ddwythell alldaflol, sydd wedyn yn draenio i'r wrethra prostatig[2]. Yn fewnol mae gan y chwarren strwythur crwybrog, gyda llabedennau a mwcosa wedi'i linio gan epitheliwm. Mae'r celloedd hyn yn cael eu dylanwadu gan destosteron sydd yn gwneud iddynt dyfu'n dalach gyda lefelau uwch. Maent yn gyfrifol am gynhyrchu secretiadau semenol. SwyddogaethMae gan secretiadau'r chwarren semenol rôl allweddol yng ngweithrediad semen, gan greu hyd at 70% o'i gyfaint cyfan. Mae'r secretiadau yn cynnwys;
Mae gweddill y semen yn cynnwys sbermatosoa o'r ceilliau, secretiadau o'r brostad a mwcws o'r chwarennau bulbourethral. AnhwylderauMae anhwylderau'r fesigl semenol yn cynnwys llid[3] codennau, crawniadau, anomaleddau cynhenid, cyst hydatid, cerrig calsiwm a thiwmorau. Cyfeiriadau
|