John Henry Scourfield
Roedd John Henry Scourfield (30 Ionawr 1808 – 3 Mehefin 1876) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros etholaethau Hwlffordd a Sir Benfro. Bywyd PersonolGanwyd John Henry Phillips yn Clifton, Bryste yn fab i'r Cyrnol Owen Philips o Williamstown ger Hwlffordd ac Ann Elizabeth (née Scourfield) merch Henry Scourfield o blas y Môt. Ym 1862 etifeddodd John Henry ystâd y Môt trwy amodau ewyllys ei ewyrth William Henry Scourfield (a fu farw ym 1843) un o'r amod oedd ei fod yn mabwysiadu'r cyfenw Scourfield [1] Cafodd ei addysgu yn Harrow a Choleg Oriel, Rhydychen lle graddiodd BA (3ydd dosbarth) yn y clasuron ym 1828 ac MA ym 1832. Ym 1845 priododd a Augusta merch John Lort Phillips a chwaer George Lort Phillips AS Sir Benfro 1861 i 1866; bu iddynt dau blentyn. CricedBu Scourfield yn gricedwr gyda statws bonheddwr gan chware i Glwb Criced Marylebone (MCC) gan chwarae ei gêm dosbarth cyntaf gyntaf ym 1830 [2] GyrfaPrif waith Scourfield oedd bod yn fonheddwr, tirfeddiannwr a landlord. Rhan o swyddogaeth ddisgwyliedig gŵr fonheddig oedd llenwi swyddi cyhoeddus. Bu Scoufield yn ynad heddwch ac yn aelod o'r llysoedd chwarter gan wasanaethu fel cadeirydd y llysoedd chwarter am gyfnod maith. Bu'n Siryf Sir Benfro ym 1833 a fu'n Arglwydd Raglaw Hwlffordd o 1857 hyd ei farwolaeth. Roedd yn ymddiriedolwr Banc Cynilo Sir Benfro a Chlafdy Hwlffordd ac yn gefnogwr nifer o elusennau ac achosion da [3] Gyrfa WleidyddolWedi dyrchafiad Richard Bulkeley Philipps Philipps, AS Hwlffordd i'r bendefigaeth fel Arglwydd Aberdaugleddau, disgwyliwyd i Scourfield i gynnig ei enw fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol i'w olynu, ond enwebwyd John Evans arweinydd y bar yn neheubarth Cymru fel yr ymgeisydd; cafodd Evans ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Yn etholiad cyffredinol 1852 safodd Scourfield yn erbyn Evans ar ran y Ceidwadwyr gan gipio'r sedd dros yr achos Ceidwadol. Parhaodd i gynrychioli’r sedd hyd etholiad cyffredinol 1868 pan benderfynodd sefyll dros sedd Sir Benfro. Bu'n cynrychioli'r sir hyd ei farwolaeth. Cafodd ei greu yn farwnig ar 18 Chwefror, 1876.[4] LlyfryddiaethCyhoeddodd Scourfield nifer o lyfrau o farddoniaeth ysgafn[5]:
MarwolaethBu farw yn Llundain a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Burton, Sir Benfro. Olwynwyd o i'r farwniaeth can ei fab Owen.[3] Cyfeiriadau
|