Llew Smith
Gwleidydd Cymreig Llafur oedd Llewellyn Thomas Smith (16 Ebrill 1944 – 26 Mai 2021), oedd yn fwy adnabyddus fel Llew Smith. Roedd yn aelod seneddol Blaenau Gwent yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd yn aelod o'r Grŵp Ymgyrchu Sosialaidd (Socialist Campaign Group). Bu farw o ganser yn Mai 2021 yn 77 mlwydd oed.[1] Safbwynt am Gymru a'r GymraegDaeth yn AS Blaenau Gwent yn 1992, a bu'n ASE yn Senedd Ewrop cyn hynny. Roedd yn un o'r ASau Llafur Cymreig, fel Neil Kinnock, a wrthwynebodd sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac a ymgyrchodd yn ei erbyn adeg y Refferendwm, er nad oedd yn un o'r "Gang o Chwech" ei hun. Yn ogystal roedd yn feirniadol o bolisïau i hybu'r iaith Gymraeg. Sefodd i lawr fel AS yn etholiad cyffredinol 2005. Mewn ymateb i sylwadau gan Gwilym ab Owain yng Ngheredigion a Seimon Glyn yng Ngwynedd ynglŷn â phroblem y mewnlifiad i'r bröydd Cymraeg a'r angen am gael tai i bobl leol, honodd Llew Smith fod Plaid Cymru "yn fudiad hiliol".[2] Ym Mehefin 2003, wrth roi dystiolaeth i'r Comisiwn Richard, a sefydlwyd i ystyried rhoi pwerau ychwanegol i'r Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd mai "rheitiach fyddai ystyried rhoi rhai o bwerau'r cynulliad yn ôl i gynghorau lleol neu senedd San Steffan yn hytrach na sôn am eu ehangu." [3] Cyfeiriadau
|