Llyfr Du Caerfyrddin
Un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf sydd wedi goroesi yw Llyfr Du Caerfyrddin (llawysgrif Peniarth 1), sy'n cael ei gyfri fel y casgliad hynaf o farddoniaeth Gymraeg.[1] Llawysgrif gymharol fychan yw, a ysgrifennwyd ar femrwn rhywbryd yng nghanol y 13g, efallai ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yn nhref Caerfyrddin. Mae'n cynnwys 39 o gerddi ac un testun rhyddiaith byr, ar 54 tudalen ffolio; sef cyfanswm o 108 tudalen (mae rhai tudalennau yn eisiau). Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o Lawysgrifau Peniarth. Fe'i lluniwyd dros gyfnod o sawl blwyddyn ac mae'n gofnod o gerddi a sgwennwyd rhwng y 9fed a'r 12g. CefndirY llawysgrifCysylltir y Llyfr Du â Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, a drowyd yn dŷ Awstinaidd gan y Normaniaid. Digon tlawd oedd y sefydliad, oedd dan reolaeth Priordy Llanddewi Nant Hodni yng Ngwent tan ddechrau'r 13g. Ategir y darlun o dlodi'r priordy gan y ffaith mai darnau bach o femrwn caled a ddefnydwyd ar gyfer y llawysgrif. Mae'r llaw fras a geir ynddi'n awgrymu mai gŵr oedd yn gyfarwydd ag ysgrifenyddiaeth litwrgaidd a'i hysgrifennodd. Yn wahanol i lawysgrifau Cymreig cynnar eraill fel Llyfr Taliesin nid yw arddull y Llyfr Du yn rheolaidd - mae ffurfiau'r llythrennau'n ansefydlog, er enghraifft - ac mae'n debyg nad ysgrifennwr proffesiynol a'i lluniodd. Fel y noda A.O.H. Jarman, mae'r Llyfr Du yn llawysgrif unigryw sy'n anodd i'w dyddio a rhaid dibynnu ar dystiolaeth fewnol y llawysgrif ei hun i wneud hynny; sefyllfa sydd wedi peri bod cryn amrywiaeth barn amdani. Mae'r ffaith fod orgraff y llythrennau'n newid yn sylweddol ar ôl ffolio 20 yn awgrymu fod y llawysgrif wedi cael ei llunio ar ddau gyfnod gwahanol. Ei hanesMae hanes trosglwyddiad y llawysgrif yn ddiddorol. Yn ail chwarter yr 16g roedd ym meddiant Syr John Price (1502-55), awdur Yn y lhyvyr hwnn. Ar sail ei dystiolaeth ef yn unig y cysylltir y Llyfr Du â Chaerfyrddin. Dywed Syr John y cafodd y llyfr gan un o drysorwyr Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yng nghyfnod diddymu'r mynachlogydd, a bod y trysorwr yn dweud ei fod yn tarddu o Briordy Caerfyrddin. Rhywbryd ar ôl hynny cafodd ei ffordd o'r De i'r Gogledd, fel nifer o lawysgrifau eraill. Ceir nodyn ynddo yn llaw y bardd Siôn Tudur (m. 1602). Roedd ym meddiant y casglwr Jasper Gryffyth (m. 1614) ar ddechrau'r 17g. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd Robert Vaughan (?1592-1667) o'r Hengwrt (Meirionnydd). Bu yn ddiogel yn llyfrgell enwog Hengwrt am tua 300 mlynedd. Gwelodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd y llyfr yno yn 1696. Yna etifeddwyd y llyfrgell gan William Watkin Edward Wynne o blas Peniarth yn 1859 ac ar ôl i Syr John Williams ei phrynu cafodd casgliad Peniarth, yn cynnwys y Llyfr Du, ei roi i'r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth. CynnwysDyma'r testunau a geir yn y Llyfr Du yn nhrefn y llawysgrif:
Llyfryddiaeth
Cyhoeddodd William Forbes Skene (1809-1892) destun y Llyfr Du yn ei olygiad uchelgeisiol ond gwallus Four Ancient Books of Wales. Ceir y testunau gorau yn:
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |