Llyn Erie
Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Erie (Saesneg: Lake Erie). Ef yw'r pedwerydd o'r pum Llyn Mawr o ran arwynebedd, a'r basaf o'r pump. Enwyd y llyn ar ôl y bobl frodorol, llwyth yr Erie. Saif Llyn Erie ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Ontario, Canada, yn y de ar daleithiau Ohio, Pennsylvania ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau, ac yn y gorllewin ar dalaith Michigan yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 25,745 km2 a'i hyd yn 388 km. DisgrifiadLlifa Afon Detroit i'r llyn o Lyn Huron a Llyn St. Clair, ac mae Afon Niagara yn llifo allan o'r llyn i Lyn Ontario. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn. Ar yr ochr ogleddol, penrhyn Parc Cenedlaethol Point Pelee yw'r rhan fwyaf deheuol o dir mawr Canada. Saif dinasoedd a threfi Buffalo, Efrog Newydd; Erie, Pennsylvania; Toledo, Ohio; Port Stanley, Ontario; Monroe, Michigan; a Cleveland, Ohio ar lan Llyn Erie. Cyfeiriadau |