Llyn Huron
![]() Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Huron (Saesneg: Lake Huron) neu Lyn Hwron. Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y trydydd fwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Môr Caspia yn fôr yn hyrach na llyn. Gellir ystyried fod Llyn Huron a Llyn Michigan yn un llyn yn hytrach na dau. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn. Enwyd y llyn gan y fforwyr Ffrengig cynnar ar ôl y bobl frodorol, yr Huron. Saif Llyn Huron ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gorllewin, mae'n ffinio ar Michigan yn yr Unol Daleithiau, yn y dwyrain at Ontario, Canada. Mae ei arwynebedd yn 59,596 km2, ac mae'n cynnwys 3,540 km3 o ddŵr. Llifa nifer o afonydd i'r llyn, yn arbennig Afon St Mary sy'n llifo o Lyn Superior. Mae Afon St Clair yn llifo allan o'r llyn. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn; y fwyaf yw Ynys Manitoulin, yr ynys fwyaf yn y byd mewn llyn dŵr croyw. ![]() Information related to Llyn Huron |