Llyn Idwal
Mae Llyn Idwal yn llyn bychan gydag arwynebedd o 28 erw (tua 800 medr wrth 300 m) ynghanol Cwm Idwal yn y Glyderau yng ngogledd Cymru. Mae'r dŵr y llyn yn llifo i lawr Afon Idwal ac yn ymuno â Nant y Benglog ychydig islaw Llyn Ogwen, sydd yna'n ffurfio Nant Ffrancon ac yna Afon Ogwen. Mae Llyn Idwal yng Ngwynedd, ond mae'r ffin â sir Conwy yn dilyn glan ddwyreiniol y llyn. O gwmpas y llyn mae nifer o fynyddoedd, yn cynnwys Glyder Fawr a'r Garn. Ym mhen gogleddol y llyn mae creigiau Trigyfylchau, sy'n cynnwys y Twll Du neu Gegin y Diafol - hollt twfn yn y clogwyn rhwng Glyder Fawr a'r Garn. Mae'r afon fechan sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i Afon Ogwen. Tarddiad yr enwYn ôl traddodiad, rhoddodd Tywysog Gwynedd, Owain Gwynedd un o'i feibion, o'r enw Idwal, yng ngofal gŵr o'r enw Nefydd Hardd. Roedd mab Nefydd ei hun, Dunawd, yn genfigennus o Idwal, ac un diwrnod gwthiodd ef i'r llyn a'i foddi. Cafodd hostel ieuenctid yn yr ardal ei henwi'n Idwal Cottage.
Dolen allanolInformation related to Llyn Idwal |