Llyn Llygad Rheidol
Gorwedd Llyn Llygad Rheidol tua 540 metr i fyny mewn cwm ychydig i'r gogledd o gopa Pumlumon yng ngogledd-orllewin Ceredigion. Fel y mae'r enw yn awgrymu, y llyn hwn yw tarddle traddodiadol afon Rheidol. ![]() ![]() Gorwedd y llyn yng Nghwm Llygad Rheidol yng nghesail ogleddol Pumlumon, rhwng creigiau Pumlumon Fach a Phumlumon Fawr ac ysgwydd foel Pencerrigtewion. Llifa ffrwd Nant y Llyn o'r llyn i lifo i lawr i gyfeiriad y gogledd-orllewin am filltir cyn ymuno yn afon Hengwm filltir cyn i'r ffrwd honno lifo i gronfa dŵr Nant-y-moch. Fel rhan o waith trydan dŵr Nant-y-moch, codwyd argae ar draws pen gogleddol Cwm Llygad Rheidol ac mewn canlyniad mae lefel y llyn yn uwch o gryn dipyn heddiw. Y ffordd hawsaf i gyrraedd y llyn yw trwy fynd ar hyd trac sy'n dringo o ben y lôn o bentref Ponterwyd ger argae Nant-y-moch. Information related to Llyn Llygad Rheidol |