Papurau newydd Cymraeg
Cafwyd cylchgronau Cymraeg mor gynnar â chanol y 18g ond bu rhaid aros tan y 19g i weld y papurau newydd Cymraeg go iawn cyntaf. Y bedwaredd ganrif ar bymthegRoedd gan Thomas Gee ran allweddol yn natblygiad y wasg Gymraeg yn y 19g. Ei gyfraniad unigol pwysicaf efallai oedd cyhoeddi Baner Cymru yn 1857 (Baner ac Amserau Cymru ar ôl hynny, newyddiadur mwyaf dylanwadol ei ddydd. Yr ugeinfed ganrifTorrai sawl llenor Cymraeg ei yrfa ym myd newyddiaduraeth Cymru, gan gynnwys T. Gwynn Jones, Dic Tryfan ac E. Morgan Humphreys ill dau ar staff Y Genedl yng Nghaernarfon, a Saunders Lewis. Y sefyllfa heddiwY Byd oedd i fod y papur newydd dyddiol Cymraeg cyntaf, ond fe fethodd i gael digon o arian i gyhoeddi. Caiff Y Cymro ei gyhoeddi'n wythnosol. Mae papurau bro – papurau cymunedol a gaiff eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr – wedi dod yn brif nodwedd diwylliant newyddiaduro Cymru yn ystod y tri degawd diwethaf. Ar-lein ceir gwefan Golwg360 sy'n cynnwys adrannau newyddion o Gymru, gwledydd Prydain a'r byd yn ogystal â newyddion chwaraeon a.y.b. Llyfryddiaeth
Gweler hefyd
Dolen allanol
Information related to Papurau newydd Cymraeg |