Parciau cenedlaethol Cymru
Darnau o dir sy'n cael eu gwarchod i'r genedl ac i'r dyfodol yw parciau cenedlaethol Cymru, sy'n 20 y cant o dir Cymru.[1] Mae tri pharc; Manylion cyfreithiolMae ardaloedd gwledig gorau Cymru wedi'u neilltuo'n barciau cenedlaethol neu'n Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r gyfraith wedi diogelu'r ardaloedd yma er mwyn gwarchod ac ehangu eu prydferthwch naturiol. Ceir tri pharc cenedlaethol yng Nghymru: Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri. Mae 2.9% o boblogaeth Cymru yn byw yma, ond maen nhw'n denu 22 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae gan y tri pharc ddau gyfrifoldeb cyfreithiol:
Wrth wneud hyn mae ganddynt hefyd gyfrifoldeb tuag at y gymuned leol sy'n byw o fewn y parc. PartneriaethMae'r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth fel 'Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC)', sy'n hyrwyddo pwrpas a diddordebau y tri Pharc. Gwnant hyn drwy 'ddarparu ffyrdd i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddod o hyd i faterion sydd o ddiddordeb cyffredin a chytuno ar ddulliau o'u gweithredu.' Rhennir gwybodaeth a phrofiadau rhwng cydweithwyr, gwneuthurwyr polisïau a chymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol ac ymwelwyr i'r ardaloedd hyn. Aesu Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel Parc NewyddMae awgrymiadau wedi bod i wneud ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn bedwerydd o Barciau Cenedlaethol Cymru. Cynigwyd hyn gan Blaid Llafur Cymru yn 2021.[2][3] Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru i asesu'r rhagolwg greu Parc cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd hyn yn cael ei hystyried yn nhymor 2021-26 y Senedd. Dyma yw'r Parc Cenedlaethol cyntaf i gael ei ystyried yng Nghymru ers bron 70 mlynedd.[4] Cynhelir ddigwyddiadau ymgysylltu ynglyn â photential creu'r parc newydd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023.[5] Mi fydd cyfnodau ymgynghori cyhoeddus hefyd ym mis Hydref 2024 a 2025 ac mae'n bosib y bydd ffiniau y parc yn cael eu haddasu. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi clustnodi £700,000 y flwyddyn rhwng yn y cyfnod 2022-25 ar gyfer y parc newydd. Y gweinidog materion gwledig, Lesley Griffiths fydd yn gwneud y penderfyniad terfynnol ac mae'r llywodraeth yn bwriadau gallu gwneud hyn cyn Etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026.[6] Mae'r ardal a gynigwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys yr AHNE i gyd yn pgystal a rhan o ogledd gogledd Powys, Llyn Efyrnwy a rhan o Wynedd sy'n ffinio a pharc Eryri.[6] Cyfeiriadau
|