Cadwyn hir o fryniau sy'n rhedeg rhwng Bwlch y Groes , ger Aran Benllyn , i gyffiniau Corwen a Llangollen yw'r Berwyn . Mae'n ffurfio ffin naturiol rhwng Edeirnion , neu Penllyn (dwyrain Meirionnydd , Gwynedd ) a Maldwyn , Powys . Ei bwynt uchaf yw Moel Sych (2,713').
Geirdarddiad
Mae'n bosibl fod yr enw yn golygu "Bryn(iau) Gwyn (ap Nudd)" (Cymraeg Cynnar bre 'hill' yn troi'n ber + Gwyn ), yn ôl T. Gwynn Jones ac eraill, ac felly'n dwyn enw Gwyn ap Nudd , brenin Y Tylwyth Teg .[ 1]
Disgrifiad
Cadair Berwyn a Llyn Lluncaws
Yn y gorllewin mae'r Berwyn yn dechrau ger Bwlch y Groes, hanner ffordd rhwng pentrefi Mallwyd a Dinas Mawddwy a phentref Llanuwchllyn ar lan Llyn Tegid . Mae'r gadwyn yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am o gwmpas pymtheg milltir. Y copa cyntaf yw Foel y Geifr, sy'n edrych i lawr ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy a bryniau Powys Fadog . Mae dwy lôn fynydd yn croesi'r ucheldir undonog rhwng y copa hwnnw a Chadair Berwyn (2230'), y gyntaf yn cysylltu Abertridwr ar lan Efyrnwy â'r Bala a'r llall yn mynd o'r Bala i Langynog ac ymlaen i'r Trallwng .
Gorwedd y rhan uchaf o'r Berwyn rhwng Bwlch y Filltir Gerrig ar y lôn olaf honno a Glyndyfrdwy . Mae'r copaon, sydd ddim yn greigiog, yn cynnwys Cadair Berwyn a'i gymydog Moel Sych (2713'), Cadair Fronwen (2572'), Pen-plaenau (1775') a Moel Fferna (2071'). Daw'r Berwyn ei hun i ben uwchlaw Nantyr yng Nglyndyfrdwy, rhwng Corwen a Llangollen.
Nid yw'n gadwyn greigiog, er bod ambell glogwyn, ond yn hytrach mae'n gyfres o foelau agored, grugog iawn, sy'n lle da i adar y mynydd, fel y Cwtiad Aur . Y gadwyn debygach iddi yng Nghymru yw'r Carneddau yng ngogledd Eryri , ond bod y Berwyn yn is a llai syrth.
Ar odrau dwyreiniol y Berwyn ceir sawl llecyn braf diarffordd, fel Llyn Efyrnwy, Pennant Melangell a'i eglwys hynafol, Llanrhaeadr-ym-Mochnant , Pistyll Rhaeadr a Dyffryn Ceiriog . I'r gogledd mae llethrau coediog Coedwig Penllyn, y Bala a Llyn Tegid, Dyffryn Edeirnion a Chorwen .
Bywyd gwyllt
Mae'r ardal yn gartref i sawl rhywogaeth o adar yr ucheldir, gan gynnwys adar ysglyfaeth fel y Boda tinwyn (Circus cyaneus ), y Llamsydyn (Falco columbarius ), a'r Hebog tramor (Falco peregrinus ) (tua 14-18 o bariau bridiau yn achos pob un o'r rhywogaethau hyn, 1-2% o'r cyfanswm poblogaeth yng ngwledydd Prydain), ac felly'n Ardal Warchod Arbennig. Mae bywyd gwyllt arall yn cynnwys tylluanod clustiog , cigfrain , bodaon , ffwlbartiaid a'r plufynnau aur .
Copaon
Lleoliad
Mynyddoedd y Berwyn
Enw
Cyfesurynnau OS
Cyfesurynnau Daearyddol
Allt y Gader :
SJ149176
map
52.749°N, 3.262°W
Allt y Main :
SJ162151
map
52.727°N, 3.242°W
Bryn Du (Y Fawnen) :
SJ145360
map
52.914°N, 3.272°W
Bryn Gwyn (mynydd) :
SJ042295
map
52.854°N, 3.424°W
Bryn-llus :
SJ085408
map
52.956°N, 3.363°W
Cadair Berwyn :
SJ071323
map
52.88°N, 3.381°W
Cadair Berwyn (copa gogleddol) :
SJ072327
map
52.883°N, 3.38°W
Cadair Bronwen :
SJ077346
map
52.9°N, 3.373°W
Cadair Bronwen (copa gogledd-ddwyrain) :
SJ087352
map
52.906°N, 3.358°W
Carnedd Das Eithin :
SJ051238
map
52.803°N, 3.409°W
Cefn Coch :
SH923266
map
52.826°N, 3.599°W
Cefn Gwyntog :
SH976265
map
52.826°N, 3.521°W
Cefn Gwyntog (copa gogleddol) :
SH975274
map
52.834°N, 3.522°W
Cerrig Coediog :
SJ113386
map
52.937°N, 3.321°W
Craig Berwyn :
SJ077335
map
52.891°N, 3.373°W
Craig Rhiwarth :
SJ054271
map
52.833°N, 3.405°W
Croes y Forwyn :
SJ029210
map
52.777°N, 3.44°W
Cyrniau :
SJ062251
map
52.815°N, 3.393°W
Cyrniau Nod :
SH988279
map
52.839°N, 3.503°W
Cyrniau y Llyn :
SJ000244
map
52.807°N, 3.484°W
Ffordd Gefn (Bryn Gwyn) :
SJ033240
map
52.804°N, 3.435°W
Foel Cwm Sian Llwyd :
SH995313
map
52.869°N, 3.494°W
Foel Dugoed ,
SH893131
map
52.704°N, 3.639°W
Foel Figenau :
SH916284
map
52.842°N, 3.61°W
Foel Goch (Berwyn) :
SH943290
map
52.848°N, 3.57°W
Foel Tyn-y-fron :
SH918257
map
52.817°N, 3.606°W
Foel Wen :
SJ099333
map
52.889°N, 3.34°W
Foel Wen (copa deheuol) :
SJ102330
map
52.886°N, 3.336°W
Foel y Geifr :
SH937275
map
52.834°N, 3.579°W
Gallt y Goedhwch :
SJ137159
map
52.733°N, 3.279°W
Glan Hafon :
SJ080272
map
52.834°N, 3.367°W
Godor :
SJ094307
map
52.866°N, 3.347°W
Godor (copa gogleddol) :
SJ089311
map
52.869°N, 3.354°W
Gyrn Moelfre :
SJ184293
map
52.854°N, 3.213°W
Jericho Hill :
SJ162202
map
52.772°N, 3.243°W
Mynydd Llanymynech :
SJ263221
map
52.791°N, 3.094°W
Lledwyn Mawr :
SH905287
map
52.844°N, 3.627°W
Moel Bentyrch ,
SJ055095
map
52.674°N, 3.399°W
Moel Cae-howel :
SH978330
map
52.884°N, 3.52°W
Moel Fferna :
SJ116397
map
52.947°N, 3.317°W
Moel Hen-fache :
SJ109281
map
52.843°N, 3.324°W
Moel Poethion :
SJ082306
map
52.865°N, 3.365°W
Moel Sych :
SJ066318
map
52.875°N, 3.389°W
Moel y Fronllwyd :
SJ121176
map
52.748°N, 3.303°W
Moel y Gwelltyn :
SJ170277
map
52.84°N, 3.233°W
Moel yr Ewig :
SJ080317
map
52.874°N, 3.368°W
Moel yr Henfaes :
SJ077385
map
52.935°N, 3.374°W
Moel yr Henfaes (Copa Pen Bwlch Llandrillo) :
SJ089369
map
52.921°N, 3.356°W
Moel yr Henfaes (copa gorllewinol) :
SJ099374
map
52.926°N, 3.341°W
Mynydd Mawr :
SJ132286
map
52.847°N, 3.29°W
Mynydd Mynyllod :
SJ002395
map
52.943°N, 3.486°W
Mynydd Tarw :
SJ112324
map
52.881°N, 3.321°W
Mynydd y Bryn :
SJ217268
map
52.833°N, 3.163°W
Mynydd y Glyn :
SJ153222
map
52.79°N, 3.257°W
Mynydd-y-briw :
SJ174260
map
52.825°N, 3.227°W
Pen y Berth ,
SJ081127
map
52.704°N, 3.361°W
Pen y Boncyn Trefeilw :
SH962283
map
52.842°N, 3.542°W
Pen y Cerrig Duon :
SH953281
map
52.84°N, 3.555°W
Pen-y-coed :
SJ226414
map
52.964°N, 3.153°W
Post Gwyn :
SJ048293
map
52.852°N, 3.415°W
Rhialgwm :
SJ055211
map
52.779°N, 3.402°W
Rhiwaedog-uwch-afon :
SH938313
map
52.868°N, 3.579°W
Rhos (Llanarmon Dyffryn Ceiriog) :
SJ125323
map
52.881°N, 3.301°W
Rhwng y Ddwynant :
SH978248
map
52.811°N, 3.517°W
Stac Rhos :
SH969279
map
52.838°N, 3.532°W
Tir Rhiwiog :
SH929162
map
52.732°N, 3.587°W
Tomle :
SJ085335
map
52.891°N, 3.361°W
Trum y Gwragedd :
SH941284
map
52.842°N, 3.573°W
Mynydd Feifod :
SJ169400
map
52.95°N, 3.238°W
Y Golfa :
SJ182070
map
52.654°N, 3.21°W
Y Groes Fagl :
SH988290
map
52.848°N, 3.504°W
Yr Allt :
SJ242102
map
52.684°N, 3.122°W
Bryn yr Orsedd
SJ142485
map
53.026°N, 3.28°W
Cyrn-y-Brain
SJ208488
map
53.03°N, 3.182°W
Mynydd Eglwyseg
SJ231464
map
53.009°N, 3.147°W
Fron Fawr
SJ208450
map
52.996°N, 3.181°W
Moel Morfydd (Mynydd Llantysilio)
SJ159457
map
53.001°N, 3.254°W
Moel Tan y Coed
SJ200439
map
52.986°N, 3.193°W
Moel y Faen (Mynydd Llantysilio)
SJ185475
map
53.018°N, 3.216°W
Moel y Gaer, Llandysilio
SJ166463
map
53.007°N, 3.244°W
Moel y Gamelin
SJ176465
map
53.009°N, 3.229°W
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
↑ T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (1930; arg. new. 1979). Ceir sawl enw lle arall sy'n cynnwys yr elfen 'Gwyn' yn yr ardal.
Darllen pellach
T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Llandybie, 1954)
F. Wynn Jones, Godre'r Berwyn (Caerdydd: Hughes a'i Fab, d.d. = c.1952). Atgofion brodor o Ddyffryn Edeirnion.
Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llandybie, 1965). Pennod ar y Berwyn.