Pencraig
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Pencraig[1] (Saesneg: Old Radnor). Saif rhwng Maesyfed a Llanandras, ychydig i'r de o briffordd yr A44 ac ychydig i'r gorllewin o'r ffin â Lloegr. Mae eglwys plwyf Pencraig yn dyddio o'r 15g ac yn cynnwys y cas organ hynaf yng ngwledydd Prydain. Heblaw pentref Pencraig, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Evenjobb a Walton. Cafwyd hyd i balisâd mawr o goed o'r cyfnod Neolithig yn Walton yn ddiweddar. Codwyd y castell mwnt a beili yn Womaston cyn 1066, a chredir mai hwn oedd yn cynharaf yng Nghymru. Bu George Cornewall Lewis yn byw yn Harpton Court. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 741. Ceir Allt Pencraig (Old Radnor Hill) yn y gymuned. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[3] ![]() Eglwys y pentref: Sant YstyffanO ran pensaerniaeth ac adeiladwaith, dyma un o eglwysi pwysicaf Cymru: mae'r hen eglwys wreiddiol yn tarddu ymhell cyn i'r Normaniaid gyrraedd. Gan nad oes eglwys arall a gysegrwyd i Sant Steffan yng Nghymru, dyfalir y gallai'r eglwys wreiddiol fod wedi ei chysegru i Ystyffan, aelod o deulu brenhinol Teyrnas Powys, gyda nifer eraill o eglwysi wedi eu cysegru iddo. Yn dilyn cwymp Tywysogion Cymru, efallai fod y Normaniaid wedi credu'n anghywir mai cyfeiriad Cymreig at Sant Steffan oedd Ystyffan ac ailgysegrwyd yr eglwys i hwnnw, gan ei fod yn sant poblogaidd yn Lloegr. Yn y 1200au, trosglwyddwyd yr eglwys i Deulu'r Mortimer. Yn 1401 cafodd ei llosgi yn ystod Gwrthryfel Glyn Dŵr. Er gwaethaf y tân, mae'r bedyddfaen cyn-Normanaidd mawr iawn, a allai fod mor hen â'r 8fed ganrif, wedi goroesi. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |