Serbeg
Iaith a siaredir yn Serbia a rhai gwledydd cyfagos yw Serbeg. Mae'n iaith swyddogol yn Serbia, a cheir cryn nifer o siaradwyr mewn gwledydd fel Bosnia a Montenegro. Credir fod tua 12 miliwn yn siarad yr iath, 8 miliwn o'r rhain yn ei siarad fel mamiaith. Mae Serbeg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonig a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg, Bosnieg a Montenegreg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddwr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân. Un wahaniaeth rhwng Serbeg a ieithoedd eraill y grŵp yw ei bod modd ei hysgrifennu gyda'r wyddor Gyrilig; mae'r mwyafrif o siaradwyr Serbeg yn deall ac yn defnyddio'r ddwy wyddor. Y ddwy wyddorMae trefn gwahanol i lythrennau'r wyddor, gan ddibynnu ar ba wyddor a ddefnyddir: Yr wyddor Gyrilig Serbeg, ćirilica (ћирилица) neu azbuka (азбука):
Yr wyddor Ladin, latinica (латиница) neu abeceda (абецеда):
Enghraifft o ddefnydd cyfochrog y ddwy wyddor yw'r Wikipedia Serbeg - dechreuodd y prosiect gan ddefnyddio'r wyddor gyrilig yn unig, ond erbyn hyn, mae meddalwedd yn galluogi dewis pa wyddor i'w ddefnyddio wrth ddarllen. |