The Ghost Train
Mae The Ghost Train yn ffilm cyffro dirgelwch Seisnig a gyfarwyddwyd gan Walter Forde ym 1941. Mae'n seiliedig ar ddrama o'r un enw a ysgrifennwyd gan Arnold Ridley ym 1923[1]. CrynodebMae het Tommy Gander (Arthur Askey), comedïwr vaudeville ar daith, yn cael ei chwythu trwy ffenestr trên. Er mwyn achub ei het mae Tommy yn tynnu llinyn cyfathrebu argyfwng y trên gan ddod ag ef i stop er mwyn iddo adfer ei het. Trwy ei weithred mae'r trên yn hwyr wrth gyrraedd gorsaf Cyffordd Fal Vale yng Nghernyw, cyffordd diarffordd lle mae angen cysylltu a threnau eraill i darfod taith. Gan fod y trên cysylltu olaf wedi hen ymadael mae'r orsaf feistr yn mynnu cau'r orsaf am y noson a thaflu'r teithwyr allan o adeiladau'r orsaf. Gan fod y pentref agosaf yn bedair milltir i ffwrdd a'i bod yn bwrw hen wragedd a ffyn, mae'r teithwyr yn gwrthod ymadael. Mae'r orsaf feistr yn cael llond bol o'u protestiadau ac yn mynd gartref gan eu rhybuddio am felltith yr orsaf. Bu llinell gangen unwaith yn croesi'r afon dros bont osgiliad ger yr orsaf. Un noson 43 mlynedd ynghynt cafodd cyn orsaf feistr trawiad angheuol ar y galon wrth geisio cau'r bont, gan achosi i drên syrthio i'r afon tra fo'r bont ar agor. Ers hynny, clywyd ysbryd y trên angheuol yn mynd heibio. Os digwydd i unrhyw un gweld, yn hytrach na jest clywed, ysbryd y trên, mi fyddai farw. Wrth sefyll y noson yn adeiladau'r orsaf mae nifer o bethau amheus a dychrynllyd yn digwydd. Yn y pendraw canfyddir mai ffug yw'r hanes am y trên ysbryd, ond bod trên go iawn yn defnyddio'r myth er mwyn smyglo arfau i arfogi Natsïaid Prydeinig oedd am amharu ar ymgyrch Prydain yn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r bradwyr Natsïaidd yn cael eu canfod a'u trechu trwy i'r bont osgiliad cael ei agor a danfon trên y bradwyr i'r dŵr. Cysylltiad CymreigMae'r Ghost Train yn ffilm propaganda adeg rhyfel, gan hynny roedd cadw lleoliadau ffilmio yn gyfrinachol yn bwysig. O herwydd ei ddaearyddiaeth mae'r syniad o gyffordd bwysig yng Nghernyw yn hurt. Byddai canfod union leoliad y bont osgiliad i'w bomio yn fêl ar fysedd yr Almaenwyr, gan hynny does dim lleoliad yn cael ei grybwyll. Ond does dim ddwywaith, bellach, mae Pont y Bermo yw seren y ffilm.[2] Cast
Derbyniad beirniadolMae TV Guide yn rhoi dau seren allan o 5 i'r ffilm ac yn ddweud ei fod yn dda am ychydig o chwerthin ac ambell i sypréis iasoer[3] Trac sain
Cyfeiriadau
Information related to The Ghost Train |