Ysgol Dyffryn Aman
Ysgol ddwyieithog yw Ysgol Dyffryn Aman a chanddi VI Dosbarth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg). CyflwyniadMae ganddi oddeutu 1700 o fyfyrwyr. Lleolwyd ar Stryd Marged, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin yng Nghymru.[1] Mae'n ysgol bob rhyw heb iddi unrhyw gysylltiad crefyddol penodedig. Lleolwyd yng ngogledd y dref wrth droed y Mynydd Du ac mae'r dref ychydig filltiroedd i ddiwedd yr M4. HanesRoedd yr ysgol yn ysgol ramadeg ac yn un o ddwy ysgol uwchradd yn y dref cyn 1970. Ond fe unwyd y ddwy ysgol ar yr un safle, ac felly ceir Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman. Cafwyd enw ddwyieithog ar yr ysgol newydd, Ysgol Dyffryn Aman - Amman Valley School, ond fe bleidleisiodd Llywodraethwyr yr ysgol yn unfrydol o blaid newid yr enw i enw uniaith Gymraeg yn 2011 yn sgil diwygio ysgolion Uwchradd Dinefwr. Bydd yr ysgol o hyn allan yn cael ei hadnabod fel Ysgol Dyffryn Aman yn unig ar bob ffurflen swyddogol, pob arwydd a phob dogfen. Ymosodiad trywanu, 2024Ar 24 Ebrill 2024, rhoddwyd yr ysgol dan glo ar ôl i dri o bobl gael eu hanafu mewn ymosodiad trywanu. Arestiwyd un person gan Heddlu Dyfed-Powys mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac anfonwyd dau ambiwlans awyr ac ambiwlans i'r lleoliad am 11:30yb. Rhyddhawyd disgyblion yr ysgol am 3:20yp i'w rhieni, llawer ohonynt wedi bod yn aros y tu allan i'r ysgol.[2][3] Ysgrifennodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Rishi Sunak a Phrif Weinidog Cymru Vaughan Gething ar Twitter eu bod wedi cael “sioc” o glywed y newyddion gan diolch i’r gwasanaethau brys a fynychodd y lleoliad. Dywedodd cyn-fyfyriwr a chyn-arweinydd Plaid Cymru Adam Price fod e "Byth wedi dychmygu hyn yn digwydd yn Rhydaman" 'a bod ei "feddwl, fel y gweddill ohonom, gyda chymuned yr ysgol".[2] Cyn-ddisgyblion
Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Information related to Ysgol Dyffryn Aman |