Roedd etholaeth Caernarfon yn ethol aelodau i senedd San Steffan yng ngogledd Cymru. Yn ddaearyddol, mae'r etholaeth yn rhan o Wynedd, gan gynnwys Llŷn i gyd. Rhwng 1832 a 1950, yr enw oedd Bwrdeistrefi Caernarfon.
O 1536 i 1832 enw'r etholaeth oedd Caernarfon sef enw'r brif fwrdeistref, o 1832 hyd 1950 enw'r etholaeth oedd Bwrdeistrefi Caernarfon, cyn troi yn ôl i'r hen enw Caernarfon o 1950 hyd ei ddiddymu yn 2010.
Ym 1950 caed gwared â'r rhaniad Bwrdeistref a Sir a rhannwyd Sir Gaernarfon yn ddwy etholaeth sirol Caernarfon yng Ngorllewin y Sir a Chonwy yn y dwyrain, crëwyd y seddi newydd o adrannau a oedd yn arfer bod yn y ddwy hen sedd.
Bu man newidiai eraill i ffiniau'r etholaeth ym 1983.
Er gwaethaf yr holl newidiadau i'r ffiniau y mae'r rhan fwyaf o lyfrau ar hanes cynrychiolaeth seneddol yn ystyried bod olyniaeth barhaus yn bodoli o ethol John Pulston fel yr aelod cyntaf i gynrychioli Caernarfon i Senedd 1542 hyd ethol Hywel Williams ar gyfer Senedd 2005-2010.[1][2]
Diddymwyd yr etholaeth yn 2010 gyda rhannau ohoni yn cael ei gynnwys yn etholaeth newydd Dwyfor Meirionnydd ac eraill yn etholaeth Arfon.
Cyflwynwyd deiseb i herio'r canlyniad ym mis Mawrth 1833, disodlwyd Paget a gwnaed Nanney yn AS yn ei le ond ar apêl adferwyd y sedd i Paget ym mis Mai 1833.