Datganoli CernywDatganoli Cernyweg yw'r mudiad i gynyddu pwerau llywodraethu Sir Gernyw.[1] Hanes datganoli a statws CernywegRheoaeth SeisnigYm 1066, goresgynnwyd llawer o Gernyw gan y Normaniaid [2] ac mae'n bosibl i Brian o Lydaw gael ei wneud yn iarll Cernyw gan William y Concwerwr. Dychwelodd rhai o Gernywiaid i Gernyw o Lydaw yn dilyn goresgyniad blaenorol gan yr Eingl-Sacsoniaid.[3] Crëwyd arglwyddiaeth Iarll Cernyw a'i phenodi gyntaf i Gondor Cernyw, goroeswr o linach frenhinol Cernyw.[4] Dugiaeth CernywFfurfiwyd Dugiaeth Cernyw ym 1337 gan frenin Lloegr Edward III ar gyfer ei fab cyntaf anedig, y Tywysog Edward ac roedd siarter yn nodi y byddai hyn yn parhau yn yr un modd ar gyfer pob mab hynaf i frenhiniaeth Lloegr. Dug Cernyw yw'r teitl a roddir i ddeiliad Dugiaeth Cernyw ac mae'r Dug yn dal rhai hawliau yng Nghernyw ac yn berchen ar yr arfordir a gwelyau afonydd o amgylch Cernyw yn ogystal â'r elw sylweddol a gynhyrchir ohono. Mae'r elw hwn yn cyfrannu at gymorth ariannol Dug Cernyw o Loegr. [5] Gwrthryfel Cernyw a Senedd StanneryYm 1497, gorymdeithiodd Michael Joseph An Gof a Thomas Flamank a byddin Gernywaidd i Lundain i brotestio yn erbyn codi trethi gan Harri VII a oedd yn ceisio cynyddu eu cyllid ar gyfer rhyfel yn erbyn yr Albanwyr. Gorchfygwyd y fyddin Gernywaidd a dienyddiwyd An Gof a Flamank. Er hyn, mae'n bosib fod y gwrthryfel wedi dylanwadu ar benderfyniad Harri VII i gyflwyno'r Siarter Pardwn ym 1508 a roddodd bwerau i Senedd Stannary i roi feto ar ddeddfwriaeth Seisnig yng Nghernyw. [4] Deddf Llywodraeth Leol 1888Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol 1888 Gernyw fel sir weinyddol a sefydlodd Gyngor Sir Cernyw.[6] Mudiad datganoli modernBargen ddatganoli 2015 CernywYn 2015 Cernyw oedd y sir gyntaf yn Lloegr i dderbyn pwerau datganoledig newydd a oedd yn cynnwys;
2016: Pwerau'r iaith GernywegYn 2016 trosglwyddwyd awdurdod ar gyfer y Gernyweg (a gydnabyddir o dan y Siarter Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol yn 2003) i Gyngor Cernyw oddi wrth y llywodraeth y DU. [7] 2022: Pŵer datganoledig pellachYm mis Rhagfyr 2022 yn Spaceport Cernyw , cyhoeddodd Dehenna Davison yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros "Leveling Up" becyn gwerth £360m yn trosglwyddo pwerau adeiladu a sgiliau i Gyngor Cernyw. Byddai'r cytundeb hefyd yn caniatau Maer rhanbarthol (Meryon Kernow) a etholwyd yn uniongyrchol i Gernywyn debyg i un Llundain Fwyaf. Mae'r pwerau wedi'u cynllunio i roi "mwy o reolaeth i'r cyngor a'r Maer/ Meryon dros gyllidebau trafnidiaeth, adeiladu, darparu sgiliau, a mwy o ddylanwad gyda'r llywodraeth i fynd i'r afael â heriau ail gartrefi" [8] [9] Galw am ddatganoli pellachCynulliad/Senedd CernywegFfurfiwyd Confensiwn Cyfansoddiadol Cernyweg yn 2000 fel sefydliad trawsbleidiol yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol i ymgyrchu dros greu Cynulliad Cernyweg, [10] tebyg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban. Rhwng 5 Mawrth 2000 a Rhagfyr 2001, casglodd yr ymgyrch lofnodion 41,650 o drigolion Cernyw yn cymeradwyo'r alwad am gynulliad datganoledig, ynghyd ag 8,896 o lofnodwyr o'r tu allan i Gernyw. Cyflwynwyd y ddeiseb ddilynol i'r Prif Weinidog, Tony Blair.[10] Mae’r blaid Gernyweg Mebyon Kernow wedi galw am greu Cynulliad neu senedd Gernywaidd yn sgil uwchgynhadledd yr G7 yng Nghernyw, gan ddweud: “...pa waddol well allai fod na chydraddoldeb â rhannau Celtaidd eraill y DU, fel yr Alban a Chymru, o ran dylanwad a buddsoddiad, a bargen ddatganoli gynhwysfawr, a fyddai'n darparu Cynulliad neu Senedd Cernywaidd?" [11] Rhesymau allweddol a awgrymir dros ddatganoliMae rheolwr gyfarwyddwr Ginsters Mark Duddridge wedi cynnig buddiannau allweddol o ddatganoli mwy o bwerau i Gernyw:
Adroddiad datganoliAwgrymodd adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR), melin drafod annibynnol, fod Cernyw wedi “gordyfu” y fargen ddatganoli wreiddiol 2015. Awgrymodd Sarah Longlands, cyfarwyddwr IPPR North fod Cernyw angen “y pŵer a’r adnoddau i allu symud ymlaen a chyflawni’r gwaith, yn hytrach nag aros i’r llywodraeth ganolog wneud y cam nesaf” ac yn seiliedig ar eu hymchwil ei fod yn "glir bod Cernyw wedi gwneud y gorau o’r cytundeb datganoli gweddol gyfyngedig a gynigiwyd yn wreiddiol.” Awgrymodd Longlands hefyd, oherwydd dirywiad y diwydiant lletygarwch yn ystod pandemig COVID-19 ac “ansicrwydd Brexit, nawr yw’r amser i roi datganoli go iawn i Gernyw sy’n golygu bod ganddyn nhw’r pwerau economaidd a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gefnogi sefydliad cryf. ac adferiad teg.” [13] Uchelgeisiau datganoli cynghorau
Pawb Dan Un Faner: Dydd Sant PiranMae gorymdaith "All Under One Banner" wedi'i threfnu ar gyfer y 19eg o Fawrth yng Nghernyw i ddathlu Dydd Sant Piran a hybu mwy o ymreolaeth i Gernyw a mwy o drafodaeth ar ei ddyfodol. [15] Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|