Gŵyl Ban Geltaidd
Gŵyl gerddorol flynyddol a gynhelir yn Iwerddon ac a fynychir gan gynrychiolwyr o'r Gwledydd Celtaidd yw'r Ŵyl Ban Geltaidd (Gaeleg: Féile Pan Cheilteach). Cefndir a chystadlaethauCynhaliwyd yr Ŵyl Ban Geltaidd gyntaf ym 1971, ac ers hynny, mae'r ŵyl wedi cael ei chynnal pob mis Ebrill yn flynyddol mewn amrywiol leoliadau yn yr ardaloedd Gaeltacht yn Iwerddon. Daw cynrychiolwyr o Gymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Llydaw ac Ynys Manaw i gymryd rhan yn yr ŵyl a chynhelir sawl cystadleuaeth dros chwe diwrnod gan gynnwys Cân Wreiddiol, Cystadlaethau Canu Côr a Dawns.[1] Cynrychiolwyr CymruEnillwyr cystadleuaeth Cân i Gymru fydd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn flynyddol. Yng nghystadleuaeth 2011, Cymru enillodd y wobr am y gân wreiddiol orau.[2] Rhoddir y cynnig i dri unigolyn a thri grŵp gwerin fynd i'r Wyl i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth yr unawd gwerin traddodiadol, a'r grŵp gwerin traddodiadol. Mae nifer o Gymru wedi dod i'r brig yn y cystadlaethau hyn dros y blynyddoedd gan gynnwys y canlynol: Unigolion: Grwpiau
Ceir cystadlaethau corawl yn yr Wyl ac mae cynrychiolaeth gref bob blwyddyn o Gymru. Dyma gorau sydd wedi dod i'r brig yn yr amryw gategorïau.
CyfeiriadauDolenni allanol
Information related to Gŵyl Ban Geltaidd |