Gŵyl Cyfryngau Celtaidd
Nod Gŵyl Cyfryngau Celtaidd (Saesneg: Celtic Media Festival), a elwid gynt yn Gŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd, yw hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau’r gwledydd Celtaidd mewn ffilm, teledu, radio a'r cyfryngau newydd. Mae’r ŵyl yn ddathliad blynyddol dros dri diwrnod o ddarlledu a ffilm o’r Alban, Iwerddon, Cymru, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw (a chynhwysir Galisia hefyd er nad yw ei hiaith yn iaith Geltaidd). Sefydlwyd yr ŵyl yn 1980 yn dilyn gweledigaeth yr Albanwr Michael Russell. Mae pencadlys y sefydliad yn Trongate 103 Glasgow G1 5HD.[1] HanesCynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn 1980, ar ynysoedd De Uist a Benbecula yn yr Alban. Cynhaliwyd y 30ain ŵyl ym mis Mawrth 2009 yng Nghaernarfon, Cymru. Cynhaliwyd y 40fed ŵyl yn Avimore, yr Alban. Mae’r ŵyl yn cyflwyno Gwobrau Torch i enillwyr 26 categori gwahanol. Cânt eu cyflwyno i raglenni o’r Gwledydd a’r Rhanbarthau Celtaidd ym mhob iaith leiafrifedig Geltaidd yn ogystal â Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Galiseg.[2] Mae’r ŵyl hefyd yn cyflwyno Torch Aur i enillydd Gwobr Ysbryd yr Ŵyl – ffilm neu raglen deledu yn gyfan gwbl neu’n sylweddol mewn iaith Geltaidd sy’n crisialu ysbryd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Yn 1999 cyflwynwyd categorïau ar gyfer cynnyrch radio.[2] Gelwid yr Ŵyl yn wreiddiol yn 1980 yn Festival of Celtic Ffilm[1] yna am sawl degawd yn Gŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd[3] Newidiwyd enw'r ŵyl i well adlewyrchu natur ac ehangder y diwydiant i Gŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd nes yr 2010au. Ymddengys i'r trefnwyr cynnar greu The Association for Film and Television in the Celtic Countries.[4] Cedwir peth o archifau'r Ŵyl yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth fel rhan o archif y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.[4] Hanes arwrolYng ngwanwyn 1979 roedd Michael Russell yn gweithio fel Cyfarwyddwr Sinema Sgire yn Ynysoedd Allanol Heledd. Cinema Sgire oedd yr unig gyfrwng yn yr Alban ar gyfer cynhyrchu fideo yn yr iaith Aeleg, ni chafodd yr un ei wneud gan y BBC na’r cwmnïau ITV a doedd gan neb arall fynediad i offer recordio fideo. Sbardunodd cyfuniad o doriadau i wariant cyhoeddus a diffyg gwybodaeth, i Michael Russell deithio i'r Iwerddon, Cymru a Llydaw yn ystod gaeaf 1979 i ddarganfod cymaint ag y gallai am gynhyrchu rhaglenni neu ffilm yn yr ieithoedd brodorol yno, ac i weld pe bai eraill yn rhannu ei weledigaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac unioni'r anghydbwysedd yn erbyn yr ieithoedd Celtaidd. Ac yntau heb ddim byd ond brwdfrydedd, aeth Michael ymlaen â’i benderfyniad i gynnal y Gŵyl Ffilm Celtaidd (fel y'i galwodd) yn Ne Uist yn Ebrill 1980 gan roi dim ond tri mis iddo ei rhoi at ei gilydd. Croesawodd lai na 50 o gynrychiolwyr i Neuadd Gymunedol Iochdar. Roedd rhaglen fach o seminarau, gwyliadau yn y digwyddiad ac mewn neuaddau pentref ledled Ynysoedd Heledd. Cafodd y digwyddiad lawer o gyhoeddusrwydd lleol a chenedlaethol. Wedi llwyddiant yr ŵyl gyntaf, cytunwyd y dylid cynnal yr Ŵyl eto a chreu strwythur i hwyluso deialog rhwng y rhai a oedd yn gweithio ym myd teledu a ffilm yn y gwledydd hynny. Nid oedd radio wedi'i gynnwys eto, heb sôn am unrhyw beth digidol neu ar ap.[1] Sianeli teledu yn ôl iaith GeltaiddYn yr iaith Geltaidd yn unigYn rhannol mewn ieithoedd Celtaidd
CadeiryddionMae’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd wedi’i chadeirio gan gynrychiolwyr o’r diwydiant darlledu:[5] Cadeiriau Gwyddelig:
Cadeiryddion yr Alban:
Cadeiryddion Cymru Lleoliadau'r Ŵyl
Categorïau
Dolenni allannol
Cyfeiriadau
|