Glasgow
Dinas fwya'r Alban yw Glasgow (Brythoneg: Glascou[1] Gaeleg yr Alban: Glaschu;[2] Sgoteg: Glesca)[3] a pedwaredd dinas fwyaf gwledydd Prydain o ran maint[4]. Saif ar Afon Clud yng ngorllewin iseldiroedd y wlad. Er taw Glasgow yw dinas fwyaf yr Alban, Caeredin, yr ail fwyaf, yw'r brifddinas. Credir bod yr enw, fel llawer o leoedd eraill yn iseldiroedd yr Alban, o darddiad Brythoneg - "glas cau". Dywedir i'r ddinas dyfu ar safle mynachlog a sefydlwyd gan Sant Cyndeyrn, sydd a chysylltiad cryf gyda Llanelwy. Sefydlwyd Prifysgol yno yn y 15g. Daeth Glasgow yn brif ganolfan y byd i'r diwydiant adeiladu llongau yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, a daeth yn borthladd pwysig iawn hefyd, ond dirywiodd ei statws rywfaint yn ystod yr 20g. Caidd ei chyfri hefyd fel ardal a fu'n ganolfan bwysig i ddatblygiad peirianneg trwm.[5] Oherwydd hyn arferid ei galw'n "Second City of the British Empire" am ran helaeth o Oes Victoria a'r cyfnod Edwardaidd.[6] Yn 2012 cyfrifid hi'n un o 10 o ddinasoedd trin arian mwya'r byd.[7] PoblogaethYn niwedd y 19eg a dechrau'r 20g cynyddodd Glasgow yn ei phoblogaeth gan gyrraedd ei hanterth (1,128,473) yn 1939,[8] gan ei gwneud y bedwaredd dinas fwya'n Ewrop ar ôl Llundain, Paris a Berlin.[9] Roedd 585,090 o bobl yn byw o fewn terfynau Dinas Glasgow yn ôl Cyfrifiad 2001, a 1,168,270 gan gynnwys yr ardaloedd trefol o amgylch y ddinas. CludiantMae gan y ddinas rwydwaith eang o gludiant, rheolir gan Bartneriaeth Strathclyde Drafnidiaeth, er defnyddir cwmnïau preifat i redeg mwyafrif ei gwasanaethau. BysiauMae rhwydwaith eang o wasanaethau bws ar draws a thu hwnt y ddinas. Y brif gwmnïau bws yw First Glasgow, Gwasanaethau bws McGill, [[Stagecoach Gorllewin y Prif orsaf bws y ddinas yw Gorsaf Bws Buchanan. RheilffyrddMae gan Glasgow 2 brif orsaf reilffordd, Gorsaf reilffordd Glasgow Canolog, sydd yn cysylltu â Chaeredin, y de a Lloegr, a Gorsaf reilffordd Glasgow (Heol y Frenhines), sydd yn cysylltu â’r gogledd a Chaeredin[10]. Mae hefyd rhwydwaith eang o wasanaethau lleol, trefnir gan SPT (Strathclyde Partnership for Transport) sydd yn cynnwys 12 o awdurdodau lleol, gan gynnwys Glasgow. Mae SPT yn gyfrifol hefyd am Reilffordd Danddaearol Glasgow, sydd yn ffurfio cylch ynghanol y ddinas.[11] Meysydd awyrMae gan y ddinas 2 faes awyr; Maes awyr Glasgow[12] a Maes awyr Prestwick.[13][14] Fferi RenfrewMae fferi’n croesi Afon Clud rhwng Renfrew a Yoker. Mae Cwmni Clyde Link yn rhedeg y wasanaeth.[15] Fferi GovanMae Fferi Govan yn croesi’r afon rhwng Govan ac Amgueddfa Riverside rhwng Gorffennaf a Hydref.[16] Maes Awyr Awyrennau MôrMae Cwmni Loch Lomond Seaplanes yn rhedeg gwasanaethau rhwng Glasgow, Oban a Tobermory, yn mynd o’r afon.[15] Adeiladau a chofadeiladau
Pontydd[17]
Mae hefyd Twnnel Clud rhwng Govan a Scotstoun. Enwogion
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|