Ely
Dinas a phlwyf sifil yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Ely.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dwyrain Swydd Gaergrawnt. Saif 14 milltir (23 km) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caergrawnt a thua 80 milltir (129 km) o ddinas Llundain. Mae poblogaeth y ddinas yn 20,256 (Cyfrifiad 2011) sy'n ei gwneud yn un o ddinasoedd lleiaf Lloegr.[2][3] Sefydlodd Æthelthryth (Etheldreda) abaty yn Ely yn 673 OC ac yn 1083 dechreuwyd codi eglwys gadeiriol ar y safle gan y Normaniaid a thyfodd tref ac wedyn dinas o gwmpas yr eglwys. Ailwampiwyd y Gadeirlan yn 1845 a 1870 gan y pensaer George Gilbert Scott. Amaethyddiaeth ydy asgwrn cefn economi'r ddinas, bellach, ers i'r canlynol ddod i ben: cynaeafu'r pren helyg, magu llysywod, torri mawn a dal adar i'w gwerthu a'u bwyta. Poblogaeth
Gweler hefydCyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd |