Inverness
Dinas yn Ucheldiroedd yr Alban yw Inverness (Gaeleg yr Alban: Inbhir Nis;[1][2] Sgoteg: Innerness).[3] Saif lle mae Afon Ness yn llifo i mewn i Foryd Moray. Mae'r boblogaeth yn 66,600, gyda 5.47% ohonynt yn siarad Gaeleg. Dyma yw prif ganolfan poblogaeth ardal Cyngor yr Ucheldir. Roedd Inverness yn un o brif gadarnleoedd y Pictiaid, a chofnodir i Sant Colum Cille ddod yma yn 565 i efengylu i Bridei I, brenin y Pictiaid. Dywedir i'r castell gael ei adeiladu gan Máel Coluim III wedi iddo ddinistrio castell cynharach a adeiladwyd gan Mac Bethad mac Findláich (Macbeth). Ymladdwyd Brwydr Culloden gerllaw'r ddinas yn 1746. Ar 7 Medi 1921 cynhaliwyd cyfarfod o gabinet y Deyrnas Unedig yma, yr unig dro erioed iddo gyfarfod tu allan i Lundain. Roedd y Prif Weinidog, David Lloyd George, ar ei wyliau yn Gairloch, a galwodd gyfarfod yma i drafod yr argyfwng yn Iwerddon. Adeiladau a chofadeiladau
Pobl enwog o Inverness
Cyfeiriadau
|