Stirling
Dinas yn yr Alban yw Stirling[1] (Gaeleg yr Alban: Sruighlea;[2] Sgoteg: Stirlin),[3] sy'n brifddinas ardal cyngor Stirling. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 41,243; y ddinas leiaf yn yr Alban. Saif y ddinas o amgylch Castell Stirling, ar fryn sydd wedi bod o bwysigrwydd strategol ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid. Credir mai Stirling oedd caer Iuddeu neu Urbs Giudi, lle gwarchaewyd ar Oswiu, brenin Northumbria gan Penda, brenin Mersia yn 655. Stirling oedd y man isaf lle gellid croesi Afon Forth, ac mae ar y ffin rhwng Iseldiroedd ac Ucheldiroedd yr Alban. Ymladdwyd nifer o frwydrau yma, yn cynnwys buddugoliaeth William Wallace dros y Saeson ym Mrwydr Pont Stirling a buddugoliaeth Robert Bruce dros fyddin Edward II, brenin Lloegr ym Mrwydr Bannockburn. Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
Cyfeiriadau
|