Salford
Dinas ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Salford.[1] Saif ar dro yn Arfon Irwell, sy'n ffurfio rhan o'r ffin rhwng Salford a dinas Manceinion i'r dwyrain. Dyma ran ganolog bwrdeistref fetropolitan Dinas Salford (Saesneg: City of Salford). Daw enw Salford o'r gair Hen Saesneg Sealhford, sy'n golygu "y rhyd (ford) ger y coed helyg (sealh." Poblogaeth: 72,750 (2011). Yn hanesyddol mae Salford yn rhan o Swydd Gaerhirfryn. Cyn y Chwyldro Diwydiannol roedd Salford yn ganolfan bwysicach o lawer na Manceinion ei hun ond newidiodd y sefyllfa o ddiwedd y 18g ac erbyn heddiw Manceinion yw'r ddinas fwyaf o bell ffordd. Mae Salford yn gartref i sawl sefydliad addysg, yn cynnwys Prifysgol Salford. Gweler hefydCyfeiriadau
Dolen allanol
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd |