Bradford
Dinas yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Bradford.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Bradford. Daeth yn dref ddiwydiannol gyfoethog yn y 19g. Gwnaethpwyd yn fwrdeistref yn 1847 ac yn ddinas yn 1897. HanesRoedd Bradford am amser hir yn ganolfan i'r diwydiant gwlân yn Riding Gorllewinol Efrog. Daw'r enw o'r 'Rhyd Lydan' (Broad Ford) a oedd yn agos i'r lle mae'r eglwys gadeiriol yn sefyll nawr. Roedd Bradford yn bodoli fel pentref cyn y Goresgyniad Normanaidd. Nid oes afon fawr ynddi, ond mae'r nant, sef y Bradford Beck, yn rhedeg tuag at Afon Aire tua Shipley. Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
Cyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd
|