Caerliwelydd
Dinas yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Caerliwelydd (Saesneg Carlisle,[1] Lladin Luguvalium). Saif yng ngogledd-orllewin eithaf Lloegr, 16 km o'r ffin a'r Alban. Roedd gynt yn dref sirol hanesyddol Cumberland, ac yn awr mae'n gartref i bencadlys awdurdod unedol Cumberland. Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan ardal adeiledig Caerliwelydd boblogaeth o 77,728.[2] HanesMae Caerliwelydd yn sefyll ger pen gorllewinol Mur Hadrian. Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer o adeiladwaith pren tua OC 72 neu 73. Codwyd caer newydd yn ei lle tua OC 105. Yn 165 codwyd caer gerrig yn ei lle. Mae rhai haneswyr yn awgrymu mai Caerliwelydd oedd prifddinas Valentia, talaith Rufeinig o fewn Britannia a sefydlwyd yn 369, ond ni ellir profi hynny. Mae'r enw Rhufeinig Luguvalium yn dynodi "mur neu le Llug" a thybir mai enw duw brodorol yw Llug. Yr enw Cymraeg yw Caerliwelydd, Caer Lliwelydd, a cheir mwy nag un enghraifft o'r enw personol Lliwelydd mewn testunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol (e.e. Llwyddawg fab Lliwelydd yn Englynion y Beddau, Llyfr Du Caerfyrddin). Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
Gweler hefydCyfeiriadau
Dolen allanol
Dinasoedd a threfi
Dinas |