Peterborough
Dinas yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Peterborough[1] (Cymraeg: Trebedr).[2] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn awdurdod unedol Dinas Peterborough. Saif ar Afon Nene, 119 km / 74 o filltiroedd i'r gogledd o Lundain. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Peterborough boblogaeth o 161,707.[3] HanesTan 1888 gweinyddwyd Peterborough gan swyddogion y ddinas (Marcwis Caerwysg, ceidwad y rholiau, ynadon ac uchel feili a benodwyd gan ddeon a chapidwl yr eglwys gadeiriol) yn annibynnol o Swydd Northampton. Yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1888, gwnaethpwyd y Soke of Peterborough yn sir weinyddol ar ei phen ei hun. Roedd yn sir fechan o ran poblogaeth, felly fe'i hunwyd â Swydd Huntingdon yn 1965 i greu sir newydd Huntingdon and Peterborough. O 1974 tan 1998, pan grewyd yr awdurdod unedol Dinas Peterborough, roedd y ddinas yn cael ei gweinyddu fel rhan o Swydd Gaergrawnt, ac mae'n dal yn rhan o sir seremoniol Swydd Gaergrawnt. Adeiladau a chofadeiladau
Pobl o Beterborough
GefeilldrefiCyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd |