George Kerevan
Gwleidydd o'r Alban yw George Kerevan (ganwyd 28 Medi 1949) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Lothian; mae'r etholaeth yn sir Dwyrain Lothian, yr Alban. Mae George Kerevan yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Graddiodd gradd Meistr gydag Anrhydedd ym Mhrifysgol Glasgow mewn Economeg Gwleidyddol.[1] Yna gweithiodd yng Ngholeg Napier mewn swyddi academaidd o 1992, a bu'n Prif Ddarlithydd mewn Economeg 1975-2000, gan arbenigo mewn economeg ynni. Rhwng 2000 a 2009 bu'n cydolygu The Scotsman[1] ac yna'n Brif Weithredwr cwmni teledu What If Productions (Television) Ltd. Etholiad 2015Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd George Kerevan 25104 o bleidleisiau, sef 42.5% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 26.5 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 6803 pleidlais. Gweler hefydCyfeiriadau
|